Betws Garmon
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
- Am enghreifftiau eraill o'r gair betws, gweler Betws (gwahaniaethu).
Pentref gwledig gwasgaredig yn ardal Arfon, sir Gwynedd, yw Betws Garmon. Saif ar yr A4085 ar ymyl Eryri, traean o'r ffordd rhwng Caernarfon a Beddgelert. Ar hyd y ffordd i gyfeiriad y gogledd Waunfawr yw'r pentref agosaf ac i'r de mae'r ffordd yn ei gysylltu â Salem a Rhyd-ddu, pentref genedigol T.H. Parry-Williams.
Mae lleoliad y pentref yn fendigedig, gyda bryniau Moel Eilio (2382') i'r dwyrain a thalp anferth Mynydd Mawr (2290') i'r de-orllewin. Rhed Afon Gwyrfai sy'n tarddu yn Llyn Cwellyn tair milltir i'r de, heibio i'r pentref, sy'n sefyll ar ei glan ddwyreiniol. Filltir y tu allan i'r pentref i'r de, ar ymyl yr A4085, mae Melin y Nant a'i rhaeadr fach.
[golygu] Safleodd cysylltiedig â Garmon
Mae'r eglwys, sy'n dyddio o 1842, yn un o nifer yng Nghymru sy'n gysegredig i Sant Garmon. Ond yr eglwys newydd yw honno, a cheir olion yr hen eglwys yn ei hymyl. Dim ond y bedyddfaen sy'n aros o'r hen eglwys, a hwnnw'n ddyddiedig 1634. I fyny ar un o'r bryniau gerllaw, Moel Smytho, ceir Ffynnon Armon, dros y cwm o'r eglwys bresennol, a rhwng y ffynnon a'r eglwys newydd mae olion hen addoldy syml o'r enw Capel Garmon. Un drws yn unig sydd iddo a'i hyd yw 23' a'i led 12.5'.
[golygu] Darllen pellach
- Harold Hughes a H.L. North, The Old Churches of Snowdonia (Bangor, 1924; argraffiad newydd, 1984)