Owain Cyfeiliog
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Roedd Owain ap Gruffudd (c. 1130 - 1197) yn dywysog ar y rhan ddeheuol o Bowys ac yn fardd. Adnabyddir ef fel Owain Cyfeiliog i'w wahaniaethu oddi wrth frenin Gwynedd ar yr un adeg, oedd hefyd yn dwyn yr enw Owain ap Gruffudd ac a adwaenir fel Owain Gwynedd.
Roedd Owain yn fab i Gruffudd ap Maredudd a nai i Madog ap Maredudd, yr olaf i deyrnasu dros y cyfan o Bowys. Rhoddodd Madog gwmwd Cyfeiliog iddo yn 1147. Ar farwolaeth Madog yn 1160 daeth Owain yn dywysog y rhan fwyaf o dde Powys.
Mae cofnod amdano'n cydweithredu a thywysogion eraill Cymru i wrthsefyll ymosodiad y brenin Harri II o Loegr yn 1165. Wedi hynny ei bosisi oedd cefnogi'r goron Seisnig. Yn 1170 rhoddodd dir i sefydlu Abaty Glyn y Groes. Yn 1188 fodd bynnag gwrthododd gyfarfod na chefnogi Baldwin, Archesgob Gaergaint a Gerallt Gymro ar eu taith o amgylch Cymru i gasglu milwyr ar gyfer y Groesgad, ac esgymunwyd ef oherwydd hyn.
Yn 1195 trosglwyddodd Owain reolaeth dros ei deyrnas i'w fab Gwenwynwyn ab Owain ac enciliodd i abaty Glyn y Groes, lle bu farw a'i gladdu ddwy flynedd yn ddiweddarach.
Yr oedd Owain hefyd yn fardd nodedig. Dim ond un o'i gerddi sydd wedi goroesi, ond mae honno, Hirlas Owain, yn cael ei hystyried fel un o gerddi Cymraeg gorau y cyfnod. Yn y gerdd, mae gosgordd Owain wedi ymgynnull yn ei lys yn dilyn ymgyrch yn 1155 i ryddhau ei frawd Meurig o garchar ym Maelor. I ddathlu llwyddiant yr ymgyrch, mae Owain yn galw am i'r corn yfed gael ei basio o un i'r llall o'i osgordd, gyda geiriau o glod i bob un. Mae nodyn trist hefyd wrth gofio am ddau o'i wyr a syrthiodd yn y brwydro.
Mae Owain yn ymddangos yn y rhamant "Fulk FitzWarin" fel marchog sy'n trywanu Fulk a'i waywffon.
[golygu] Cyfeiriadau
- John Edward Lloyd (1911) A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.)
- Meic Stephens (gol.) (1986) Cydymaith i lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru)
Beirdd y Tywysogion | |
---|---|
Bleddyn Fardd | Cynddelw Brydydd Mawr | Dafydd Benfras | Daniel ap Llosgwrn Mew | Einion ap Gwalchmai | Einion ap Gwgan | Einion ap Madog ap Rhahawd | Einion Wan | Elidir Sais | Goronwy Foel | Gruffudd ab Yr Ynad Coch | Gruffudd ap Gwrgenau | Gwalchmai ap Meilyr | Gwernen ap Clyddno | Gwgan Brydydd | Gwilym Rhyfel | Gwynfardd Brycheiniog | Hywel ab Owain Gwynedd | Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel | Iorwerth Fychan | Llygad Gŵr | Llywarch ap Llywelyn | Llywarch Llaety | Llywarch y Nam | Llywelyn Fardd I | Llywelyn Fardd II | Madog ap Gwallter | Meilyr ap Gwalchmai | Meilyr Brydydd | Owain Cyfeiliog | Peryf ap Cedifor | Y Prydydd Bychan | Philyp Brydydd | Seisyll Bryffwrch |