Einion ap Gwalchmai
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Roedd Einion ap Gwalchmai (fl. 1203 - 1223) yn fardd llys a drigai ym Môn.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Ei linach
Roedd Einion yn perthyn i deulu barddol nodedig, yn y drydedd genhedlaeth o linach o feirdd sy'n dechrau gyda'i daid Meilyr Brydydd, bardd llys Gruffudd ap Cynan. Ei dad oedd Gwalchmai ap Meilyr. Ei frawd oedd Meilyr ap Gwalchmai ac mae'n bosibl fod y bardd Elidir Sais naill ai'n frawd iddo neu'n ewythr iddo.
[golygu] Ei ganu
Cedwir tair awdl hir i Dduw gan Einion ynghyd â llinellau agoriadol mawl i Lywelyn Fawr. Ei gerdd fwyaf nodedig efallai yw ei farwnad ddwys i Nest ferch Hywel, o Dywyn, Meirionnydd. Mae'n agor â chwech llinell telynegol iawn i fis Mai:
- Amser Mai, maith dydd, neud rhydd rhoddi,
- Neud coed nad ceithiw, ceinlliw celli.
- Neud llafar adar, neud gwâr gweilgi,
- Neud gwaeddgreg gwaneg gwynt yn edwi,
- Neud erfai ddoniau goddau gweddi,
- Neud argel dawel, nid mau dewi.
[golygu] Einion mewn llên gwerin
Cysylltir Einion â chwedl llên gwerin hynod a elwir "Einion ap Gwalchmai a Rhiain y Glasgoed". Yn ogystal fe'i cysylltir â "Naid Abernodwydd", ger Pentraeth ar ynys Môn; dywedir iddo neidio hanner can troedfedd dros afon yn Abernodwydd o flaen llygaid ei gariad er mwyn ei hennill yn wraig iddo.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Bedwyr Lewis Jones (gol.), Gwŷr Môn (Y Bala, 1979). Erthygl gan Tomos Roberts.
- J.E. Caerwyn Williams (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion (Caerdydd, 1994)
Beirdd y Tywysogion | |
---|---|
Bleddyn Fardd | Cynddelw Brydydd Mawr | Dafydd Benfras | Daniel ap Llosgwrn Mew | Einion ap Gwalchmai | Einion ap Gwgan | Einion ap Madog ap Rhahawd | Einion Wan | Elidir Sais | Goronwy Foel | Gruffudd ab Yr Ynad Coch | Gruffudd ap Gwrgenau | Gwalchmai ap Meilyr | Gwernen ap Clyddno | Gwgan Brydydd | Gwilym Rhyfel | Gwynfardd Brycheiniog | Hywel ab Owain Gwynedd | Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel | Iorwerth Fychan | Llygad Gŵr | Llywarch ap Llywelyn | Llywarch Llaety | Llywarch y Nam | Llywelyn Fardd I | Llywelyn Fardd II | Madog ap Gwallter | Meilyr ap Gwalchmai | Meilyr Brydydd | Owain Cyfeiliog | Peryf ap Cedifor | Y Prydydd Bychan | Philyp Brydydd | Seisyll Bryffwrch |