Robert Stephenson
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Peiriannydd sifil o Sais oedd Robert Stephenson (1803 - 1859). Roedd yn fab i'r peiriannydd rheilffordd George Stephenson (1781 - 1859).
Ar ôl treulio cyfnod fel prentis i arolygydd gwaith glo yn Killingworth cafodd ei anfon i astudio ym Mhrifysgol Caeredin am chwe mis yn 1822. Yn 1823 cynorthwyodd ei dad i wneud arolwg o Reilffordd Stockton a Darlington. Treuliodd gyfnod o dair blynedd yng Ngholombia cyn dychwelyd i redeg ffatri injan reilffordd ei dad yn Newcastle.
Daeth yn adnabyddus am ei waith ar godi pontydd rheilffordd, gan gynnwys Pont Britannia ar Afon Menai (1850), Pont Reilffordd Conwy ar Afon Conwy (1848), y Royal Border Bridge yn Berwick a phont arall ym Montreal, Canada (1859).
Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol yn 1847. Fe'i claddwyd yn Abaty Westminster, Llundain.