Colombia
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
|
|||||
Arwyddair: Libertad y Orden (Sbaeneg: Rhyddid a Threfn) |
|||||
Anthem: Himno Nacional de la República de Colombia | |||||
Prifddinas | Bogotá | ||||
Dinas fwyaf | Bogotá | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg | ||||
Llywodraeth
Arlywydd
|
Gweriniaeth Álvaro Uribe |
||||
Annibyniaeth Datganwyd Cydnabuwyd |
o Sbaen 20 Gorffennaf 1810 7 Awst 1819 |
||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
1 141 748 km² (26ain) 8.8 |
||||
Poblogaeth - amcangyfrif 2005 - cyfrifiad 2005 - Dwysedd |
45 600 000 (28ain) 42 090 502 40/km² (161ain) |
||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
amcangyfrif 2005 $337 biliwn (29ain) $7565 (81ain) |
||||
Indecs Datblygiad Dynol (2004) | 0.790 (70ain) – canolig | ||||
Arian breiniol | Peso (COP ) |
||||
Cylchfa amser - Haf |
(UTC-5) | ||||
Côd ISO y wlad | .co | ||||
Côd ffôn | +57 |
Gwlad yn ngogledd-orllewin De America yw Colombia, yn swyddogol Gweriniaeth Colombia (Sbaeneg: República de Colombia, IPA: /re'puβ̞lika ð̞e ko'lombja/). Mae'n ffinio â Feneswela a Brasil i'r dwyrain, Ecwador a Pheriw i'r de, y Cefnfor Iwerydd i'r gogledd (trwy Fôr y Caribî), a Phanama a'r Cefnfor Tawel i'r gorllewin. Colombia yw'r unig wlad yn Ne America gydag arfordiroedd â'r Cefnforoedd Iwerydd a Thawel.
Colombia yw'r wlad fwyaf ond tri yn Ne America yn nhermau arwynebedd (yn dilyn Brasil, yr Ariannin a Pheriw), a'r mwyaf ond un yn nhermau poblogaeth (yn dilyn Brasil). Mae'r mwyafrif o Golombiaid yn byw yng ngorllewin mynyddig y wlad, lle lleolir y brifddinas Bogotá a'r rhan fwyaf o ddinasoedd eraill. Mae daearyddiaeth amrywiol gan Golombia, o gopaon eiraog yr Andes i wastatiroedd twym, llaith yr Afon Amason.
Am y pedair degawd diwethaf, dioddefa Colombia gwrthdaro arfog ar raddfa fechan sy'n cynnwys mudiadau gwrthryfelwyr herwfilwrol, milisiâu, a masnachu cyffuriau. Dechreuodd y gwrthdaro tua 1964-1966, pan sefydlwyd yr FARC a'r ELN a dechreuont eu hymgyrchoedd gwrthryfelgar herwfilwrol yn erbyn y llywodraethau olynol. Ers etholiad Álvaro Uribe fel Arlywydd Colombia, mae sefyllfa diogelwch y wlad wedi gwella rhywfaint.