Sfax
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Sfax yn ddinas yn nwyrain canolbarth Tunisia, prifddinas y gouvernorat o'r un enw, 266km i'r de o Tunis. Ei phoblogaeth yw 275,000 (2001).
Lleolir Sfax ar yr arfordir. Mae hi'n ddinas hanesyddol gyda'r medina gorau yn Tunisia, ond erbyn heddiw mae hi'n ganolfan diwydiant a masnach. Mae llongau fferi yn croesi o Sfax i Ynysoedd Kerkennah.
[golygu] Hanes
Er bod ardal Sfax yn drigfan i'r Pheniciaid a'r Rhufeiniaid nid oedd yn lle pwysig tan i'r goresgynwyr Arabiaid sefydlu tref yno yn y 8fed ganrif, efallai ar safle'r dref Rufeinig fechan Taparura, sydd wedi diflannu bellach.
Codwyd muriau amddiffynnol y ddinas gan yr Aghlabiaid yn y 9fed ganrif. Erbyn diwedd yr Oesoedd Canol Sfax oedd y ddinas pwysicaf yn ne Tunisia. Rheolai'r arfordir rhwng Sfax a Tripoli yn Libya a llwyddodd i aros yn lled-annibynnol ar y brifddinas Tunis tan ddechrau'r 17eg ganrif.
Y Ffrancod sy'n gyfrifol am ffurf y ddinas heddiw. Codasant ville nouvelle yn y dull Ewropeaidd i'r de o'r medina trwy lenwir corsdir a datblygasant borth i ddelio allforio'r ffosfad o fwyngloddiau Gafsa.
[golygu] Atyniadau
Lleolir yr atyniadau hanesyddol i gyd bron yn y medina. Mae amgueddfa archaeolegol y dref yn gartref i ddarganfyddiadau o drefi Rhufeinig yr ardal ac yn cynnwys mosaic enwog o'r bardd Rhufeinig Ennius a'r Naw Awen.
[golygu] Enwogion
Ganed dau o arwyr mudiad annibyniaeth Tunisia, Hedi Chaker a Farhat Hached yn Sfax.