Thomas Rowland Hughes
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Nofelydd, dramodydd a bardd oedd Thomas Rowland Hughes neu T. Rowland Hughes (1903 1949). Roedd yn fab i chwarelwr o Lanberis, yn yr hen Sir Gaernarfon (Gwynedd heddiw), gogledd Cymru. Mae'n adnabyddus heddiw yn bennaf am ei nofelau am gymeriadau yn byw ac yn gweithio yn chwareli llechi y gogledd, ond yn ei ddydd yr oedd yn cael ei edmygu fel bardd yn ogystal. William Jones yw ei nofel enwocaf.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Ei fywyd
Cafodd radd dosbarth cyntaf mewn Saesneg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Bangor, ac astudiodd hefyd yng Ngholeg Yr Iesu, Rhydychen. Ei swydd bwysicaf oedd fel cynhyrchydd gyda'r BBC yng Nghaerdydd. Ac yntau yn ei dridegau dechreuodd ddioddef o'r clefyd calediad amryfal a adwaenir fel 'MS'. Yn naturiol aeth i ddioddef o iselder ysbryd ac aeth ati i ysgrifennu a dyma pryd y cynhyrchwyd ei nofelau enwog.
[golygu] Llyfryddiaeth
[golygu] Barddoniaeth
- Cân neu ddwy (1948)
[golygu] Nofelau
- O Law i Law (1943)
- William Jones (1944)
- Yr Ogof (1945)
- Chwalfa (1946)
- Y Cychwyn (1947)
[golygu] Dramâu
- Y Ffordd (1945)
[golygu] I blant
- Storïau Mawr y Byd (1936)
[golygu] Beirniadaeth a chofiant
- Cofiant gan Edward Rees (1968)
- John Rowlands, T. Rowland Hughes (Cyfres Writers of Wales, Caerdydd, 1975)