Tymheredd a Gwasgedd Safonol
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Er mwyn sicrhau cysondeb mewn mesuriadau gwyddonol, defnyddir Tymheredd a Gwasgedd Safonol ar gyfer pob broses. Mae'r rhain yn set o werthoedd ar gyfer amodau unrhyw mesuriad sy'n cael eu diffinio gan IUPAC ar gyfer prosesau cemegol. Y gwerthoedd safonol yw gwasgedd o un bar (100 kPa) a thymheredd o 273.15K (0°C). Mae'r gwasgedd yn agos iawn at wasgedd un atmosffer (101.325 kPa), gan mai hwn oedd yr hen wasgedd safonol.
Defnyddir gwerthoedd gwahanol gan cyrff safonol gwahanol, ac mae'r BSI (Athrofa Safonau Prydeinig), yr ISO (Athrofa Safonau Rhyngwladol) a'r NIST (Athrofa Cenedlaethol Safonau a Thechnoleg yr UDA) oll yn defnyddio mwy nag un set o werthoedd tymheredd a gwasgedd safonol ar gyfer pwrpasau gwahanol.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.