Ysguthan
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Ysguthan | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
![]() |
||||||||||||||
Dosbarthiad biolegol | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
Enw deuenwol | ||||||||||||||
Columba palumbus Linnaeus, 1758 |
Mae'r Ysguthan (Columba palumbus ) yn aelod o deulu'r Columbidae, y colomennod. Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop a gorllewin Asia.
Yn y rhannau lle mae'r gaeafau yn arnennig o oer, megis gogledd a dwyrain Ewrop, mae'r Ysguthan yn aderyn mudol, yn symud tua'r de neu tua'r gorllewin. Yng ngorllewin a de Ewrop mae'n aros trwy'r flwyddyn.
Mae'r Ysguthan yn aderyn mwy na'r aelodau eraill o deulu'r colomennod sy'n gyffredin yn Ewrop, er enghraifft y Golomen Wyllt, tua 41 cm o hyd. Gellir ei hadnabod hefyd wrth y darn mawr gwyn ar y gwegil a'r gwyn ar yr adenydd. Mae'r gweddill o'r plu yn llwyd.
Mae'n nythu mewn coed, yn dodwy dau wy gwyn. Tu allan i'r tymor nythu mae'n ynmgasglu yn heidiau, weithiau gannoedd neu hyd yn oed filoedd gyda'i gilydd. Mae eu bwyd yn wahanol fathau o blanhigion, yn enwedig grawn ac egin ieuanc, ac oherwydd hyn maent yn aml yn cael eu saethu gan ffermwyr.