Ávila
Oddi ar Wicipedia
Dinas yng ngorllewin Sbaen yw Ávila, yng nghymuned ymreolaethol Castilla y León, a phrifddinas talaith Ávila. Mae'n enwog am y mur sy'n amgylchynu'r ddinas, sydd mewn cyflwr arbennig o dda, ac am y nifer fawr o eglwysi.
Saif ar fryn creigiog, 1,182 medr uwch lefel y môr. Mae hanes y ddinas yn mynd yn ôl i'r cyfnod cyn y Rhufeiniaid, pan oedd Óbila yn un o gaerau (castros) llwyth y Vetones. Yn y cyfnod Rhufeinig, gelwid y ddinas yn Abila neu Abela. Gellir gweld llawer o olion o'r cyfnod hwn. Yn ddiweddarach daeth yn ddinas Fisigothaidd, ac roedd mynachlog wedi ei sefydlu yma cyn 687. Yn ddiweddarach cipiwyd hi gan y Mwslimiaid, a daeth yn ddinas strategol bwysig, gyda llawer o ymladd rhyngddynt hwy a'r Cristionogion a geisiai ei chipio. Yn y cyfnod yma yr adeiladwyd y muriau, rhwng yr 11eg ganrif a'r 14eg ganrif.
Mae Ávila yn enwog fel man geni'r santes Teresa o Ávila. Yma hefyd y ganed Isabel I, brenhines Castilla, y cerddor Tomás Luis de Victoria a'r athronydd a llenor Jorge Santayana. Cyhoeddwyd y ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd yn 1985.