Fisigothiaid
Oddi ar Wicipedia
Roedd y Fisigothiaid (Gothiaid Gorllewinol) yn un o'r ddwy brif gangen o'r Gothiaid; yr Ostrogothiaid oedd y llall.
Yn 410 cipiwyd Rhyfain gan fyddin Fisigothaidd dan arweiniad eu brenin Alaric I. Wedi cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig, yr oedd y Fisigothiaid yn un o bwerau mawr Ewrop am gyfnod o ddwy ganrif a hanner.
Rhwng 407 a 409 roedd y Fandaliaid, gyda chymorth yr Alaniaid, wedi concro rhan helaeth o Sbaen. Gofynnodd yr ymerawdwr Rhufeinig yn y gorllewin, Honorius, am gymorth y Fisigothiaid i adennill y diriogaeth, ac wedi iddynt lwyddo, rhoddodd diriogaeth iddynt yn Gallia Aquitania fel gwobr. Yn 475, llwyddodd eu brenin Euric i orfodi'r Rhufeiniaid i gydnabod annibyniaeth teyrnas y Fisigothiaid. Erbyn 500 oedd Teyrnas y Fisigothiaid, gyda'r brifddinas yn Toulouse, yn rheoli Aquitania, Gallia Narbonensis a'r rhan fwyaf o Hispania. Yn 507 gorchfygwyd hwy gan y Ffranciaid dan Clovis I. Lladdwyd eu brenin Alaric II a chollasant eu gafael ar Aquitaine. Symudodd canolfan y deyrnas i Barcelona, ac yna i Toledo. O 511 hyd 526, roedd y Fisigothiaid mewn cynghrair a'r Ostrogothiaid dan Theodoric Fawr.
Yn 554, collwyd Granada a rhan ddeheuol Hispania Baetica i't Ymerodraeth Fysantaidd, ond erbyn 624 roedd y Fisigothiaid wedi adennill y tiriogaethau hyn. Yn 711, lladdwyd y brenin Roderic (Rodrigo) wrth wynebu ymosodiad Mwslimaidd ym Mrwydr Guadalete, ac erbyn 718 roedd y rhan fwyaf o Sbaen yn eiddo'r Mwslimiaid fel rhan o Al Andalus.
Symudodd llawer o'r Fisigothiaid tua'r gogledd, gan ffurfio Teyrnas Asturias yng ngogledd Sbaen, a bu gan eraill ran bwysig yn ymerodraeth Siarlymaen ychydig yn ddiweddarach.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Brenhinoedd y Fisigothiaid
[golygu] Brenhinoedd Paganaidd
[golygu] Gwrthryfelwyr
[golygu] Brenhinllin Balti - brenhinoedd Ariaidd
[golygu] Brenhinllin Balti - brenhinoedd Ariaidd Toulouse
- Wallia (415–419)
- Theodoric I (419–451)
- Thorismund (451–453)
- Theodoric II (453–466)
- Euric (466–484)
- Alaric II (484–507)
[golygu] Brenhinllin Balti
[golygu] Brenhinoedd diweddarach
[golygu] Brenhinoedd diweddarach - Teyrnas Ariaidd Toledo
[golygu] Brenhinoedd diweddarach - Teyrnas Gatholig Toledo
- Reccared I (586–601)
- Liuva II (601–603)
- Witteric (603–610)
- Gundemar (610–612)
- Sisebut (612–621)
- Reccared II (621)
- Suintila (621–631)
- Sisenand (631–636)
- Chintila (636–640)
- Tulga (640–641)
- Chindasuinth (641–649)
- Reccesuinth (649–672)
- Wamba (672–680)
- Erwig (680–687)
- Ergica (687–701)
- Wittiza (701–710)
- Roderic (710–711)
- Agila II (711–713)
- Ardo (713–721)