Aeschulos
Oddi ar Wicipedia
Dramodydd Geoegaidd oedd Aeschulos (Groeg: Αἰσχύλος, 525 CC/524 CC - 456 CC). Ef oedd y cyntaf o dri trasiedydd mawr Athen; dilynwyd ef gan Soffocles ac Euripides.
Ganed ef yn 525 neu 524 CC yn Eleusis, tref fechan rhyw 30 km i'r gogledd-orllewin o Athen. Yn 490 CC, ymladdodd Aeschulos a'i frawd Cynegeirus yn erbyn y Persiaid ym Mrwydr Marathon. Lladdwyd Cynegeirus yn y frwydr. Efallai iddo hefyd ymladd ym Mrwydr Salamis ddeng mlynedd yn ddiweddarach, ond nid oes prawf o hyn, er iddo ddisgrifio'r ymladd yn fyw yn ei ddrama Y Persiaid.
Teithiodd Aeschulos i Sicilia unwaith neu ddwy yn y 470au CC, ar wahoddiad Hieron, teyrn Syracuse. Dychwelodd i Sicilia yn 458 CC, a bu farw yno, yn ninas Gela, yn 456 neu 455 BC. Yn ôl un chwedl. fe'i lladdwyd pan gredodd eryr mai carreg oedd ei ben moel, a gollwng crwban arno.
Ar garreg ei fedd, rhoddwyd arysgrif oedd yn coffáu ei wrhydri fel milwr yn hytrach na'i fri fel dramodydd:
Groeg | Cymraeg |
|
|
[golygu] Dramâu sydd wedi gorooesi
- Y Persiaid (472 C)
- Saith yn erbyn Thebai (467 CC)
- Y deisyfwragedd (463 CC)
- Oresteia (458 CC) sy'n cynnwys:
- Agamemnon
- Yr offrymwyr
- Yr Eumenides
- Promtheus mewn cadwynau (dadl ai ef yw'r awdur)