Sicilia
Oddi ar Wicipedia
![]() |
|
Prifddinas | Palermo |
Arlywydd | Salvatore Cuffaro |
Taleithiau | Agrigento Caltanissetta Catania Enna Messina Palermo Ragusa Syracuse Trapani |
Bwrdeistrefi | 390 |
Arwynebedd | 25,708 km² |
- Safle | 1af (8.5 %) |
Poblogaeth - Cyfanswm - Safle |
5,017,212 4fed (8.5 %) 195/km² |
![]() |
|
Sicilia yn yr Eidal |
Ynys yng nghanol y Môr Canoldir a rhanbarth o'r Eidal yw Sicilia (hefyd Sisili neu Sicily) (Eidaleg a Sisilieg Sicilia). Mae Culfor Messina yn gorwedd rhwng yr ynys a'r tir mawr. Ei harwynebedd tir, gan gynnwys y mân ynysoedd, yw 25,710 km² (9927 milltir²). Y brifddinas yw Palermo.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Daearyddiaeth
Sisili yw'r ynys fwyaf yn y Môr Canoldir. Gyda'r ynysoedd llai oddi amgylch (Ynysoedd Égadi ac Ynysoedd Lipari yw'r ddau grŵp mwyaf) mae'n rhanbarth hunanlywodraethol yn yr Eidal. Mae'r ynys yn fynyddig iawn, gan godi i 1800m ym Mynydd Etna.
[golygu] Hanes
- Prif erthygl: Hanes Sisili
Ymsefydlai'r Groegiaid ar yr ynys o'r 8fed ganrif CC ymlaen. Meddianwyd rhan o'r ynys gan y Carthaginiaid yn fuan ar ôl hynny a bu cryn ymrafael rhwng y ddwy blaid am rai canrifoedd. Fe'i meddianwyd gan y Rhufeiniaid yn ail hanner y drydedd ganrif CC ac erbyn 211 CC roedd yn dalaith Rufeinig.
Goresgynwyd yr ynys gan yr Arabiaid yn y 9fed ganrif a datblygodd diwylliant hybrid unigryw ar yr ynys. Yn 1060 cyrhaeddodd y Normaniaid a meddianwyd yr ynys ganddynt yn eu tro. Yn 1266 coronwyd Siarl I, brenin Napoli a Sisili yn frenin Angevinaidd cyntaf Sisili. Cwnwerwyd yr ynys gan deyrnas Aragon yn 1284 yn sgîl Cyflafan y Gosber Sisiliaidd.
Creuwyd Teyrnas y Ddwy Sisili yn 1815 gan Ferdinand I o Awstria a Hwngari. Cipiodd Garibaldi yr ynys yn 1860 ac unwyd Sisili â gweddill yr Eidal. Am flynyddoedd bu hanes yr ynys yn ansefydlog a llawn tensiynau cymdeithasol oherwydd cyflwr economaidd y wlad, tlodi a grym y Maffia a cheidwadwyr eglwysig. Ymfudodd nifer fawr o Sisiliaid tlawd i'r Unol Daleithiau oherwydd hynny.
[golygu] Economi
Erbyn heddiw mae economi yr ynys yn bur ffynnianus. Un o'r diwydiannau mwyaf yw twristiaeth.
[golygu] Cysylltiad Allanol
- (Eidaleg) Gwefan swyddogol
Rhanbarthau 'r Eidal | ![]() |
---|---|
Abruzzo | Basilicata | Calabria | Campania | Emilia-Romagna | Lazio | Liguria | Lombardia | Marche | Molise | Piemonte | Puglia | Toscana | Umbria | Veneto | |
Friuli-Venezia Giulia | Sardegna | Sicilia | Trentino-Alto Adige | Val d'Aosta |