Afon Dysynni
Oddi ar Wicipedia
Mae Afon Dysynni yn afon ym Meirionnydd (de Gwynedd) yng ngogledd-orllewin Cymru.
Mae Afon Dysynni yn tarddu ar lethrau Cadair Idris uwchben Llyn Cau. Ar ôl llifo trwy Llyn Cau mae'n llifo'n gyflym i lawr y llethrau nes cyrraedd Llyn Mwyngil. Wedi gadael y llyn yma mae'n llifo'n fwy hamddenol tua'r de-orllewin heibio Abergynolwyn, lle mae Nant Gwernol yn ymuno a'r afon. Gerllaw Castell y Bere mae Afon Cadair yn ymuno a'r Dysynni ac mae'r tir yn agor i ffurfio Dyffryn Dysynni, dyffryn llydan sydd ymhlith yr harddaf yn y wlad. Mae'r afon yn mynd heibio Llanegryn, plasdy hynafol Peniarth a Bryncrug ar ei wely gwastad ac yn cyrraedd y môr yn Aberdysynni, i'r gogledd o dref Tywyn.