Afon Seiont
Oddi ar Wicipedia
Mae Afon Seiont yn afon weddol fer (tua 20 km) yng Ngwynedd yng ngogledd-orllewin Cymru.
Ystyrir fel rheol fod Afon Seiont yn tarddu yn Llyn Padarn ger pentref Cwm-y-glo, ond gelwir yr afon yn Afon Rhythallt am y rhan gyntaf o't thaith tua'r môr, hyd nes cyrraedd Pont Rhythallt ger Llanrug. O'r fan honno ymlaen gelwir hi yn Afon Seiont. Mae'n llifo trwy bentref Pont-rug a heibio Caeathro cyn cyrraedd Caernarfon, lle mae'n cyrraedd y môr gerllaw Castell Caernarfon.
Ceir pysgota da am Eog a Brithyll yn Afon Seiont. Credir fod yr enw Segontium ar y gaer Rufeinig yng Nghaernarfon wedi dod o enw'r afon, sy'n llifo heibio'r gaer honno cyn cyrraedd y dref.