Alger
Oddi ar Wicipedia
Alger neu Algiers (Arabeg al-Jazā'ir) yw prifddinas Algeria. Wedi'i lleoli yng nghanol arfordir Algeria ar y Môr Canoldir, Alger yw un o'r prif borthladdoedd ar y môr hwnnw a dinas fwyaf y wlad. Mae'r casbah (yr hen ddinas) ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd yn Affrica.
[golygu] Hanes
Cafodd Alger ei sefydlu gan y Ffeniciaid dros 2600 mlynedd yn ôl ond erbyn i'r Arabiaid gyrraedd yn y 7fed ganrif roedd yn bentref bach dibwys. Cafodd ei datblygu gan yr Arabiaid o'r 10fed ganrif ymlaen a thyfodd yn gyflym i fod yn ddinas fawr a llewyrchus. Yn y 16eg ganrif fe'i meddianwyd gan y Tyrciaid Otomanaidd ac fe'i defnyddid fel gwersyll ar gyfer môr-ladron Barbari, e.e. Khair-ed-din Barbarossa, a gipiodd y ddinas yn 1539.
Cipiodd Ffrainc y ddinas oddi ar Dwrci yn 1830 a'i gwneud yn brifddinas ei thalaith newydd, Algeria. Sefydlwyd Prifysgol Alger yn 1879. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd Alger oedd pencadlys lluoedd y Cynghreiriaid yng Ngogledd Affrica ac, am gyfnod, yn bencadlys llywodraeth alltud Ffrainc. Bu'r ddinas yn dyst i ymladd ar sawl achlysur yn ystod y frwydr dros annibyniaeth i'r wlad ar Ffrainc (1954-1962).
[golygu] Economi
Mae ei hallforion yn cynnwys gwin, ffrwythau sitrus a haearn.