Amffitheatr El Jem
Oddi ar Wicipedia
Mae amffitheatr El Jem, a elwir hefyd yn Colosêwm Thysdrus, yn amffitheatr Rufeinig a godwyd yn ôl pob tebyg yn OC 238 dan awdurdod y proconsul Rhufeinig Gordian (a ddaeth yn ymerodr Rhufain yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn) ac a ddefnyddid ar gyfer gornestau gladiator, rasus cerbydau a gemau eraill y syrcas Rhufeinig. Fe'i lleolir yn ninas hynafol Thysdrus (El Jem heddiw) yn nhalaith Rufeinig Affrica (Tunisia).
Ystyrir amffitheatr El Jem i fod y trydedd fwyaf yn y byd Rhufeinig, ar ôl y Colisseum enwog yn Rhufain ac amffitheatr Capua (mae'r enghreifftiau yn Verona, Carthage a Pouzzoli yn ogystal yn ymgeisyddion am y fraint honno). Mae gan yr amffitheatr a'r adeiladau atodol arwynebedd o 147,90 medr gyda hyd o 138m a lled o 114m. Gellir gweld o hyd y twneli ar gyfer llewod ac anifeiliad eraill ynghyd â system cymhleth o bibellau, ffosydd a chronfeydd ar gyfer dŵr glaw.
Er gwaethaf y ffaith fod rhan ohoni wedi'i dinistrio pan gymerwyd cerrig i godi adeiladau yn El Jem, mae'n aros mewn cyflwr eithriadol o dda a chredir ei bod wedi aros yn gyfan hyd ddechrau'r 18fed ganrif. Mae'r amffitheatr ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO ers 1979.
Gelwir amffitheatr El Jem yn Ksar al-Kahena weithiau (Caer La Kahena), ar ôl y dywysoges Berber enwog o'r 7fed ganrif Al Kahina a arweiniodd y llwythau Berber brodorol yn erbyn y goresgynwyr Arabaidd Mwslim. Yn ôl un fersiwn o'i hanes, ar ôl colli'r dydd mewn brwydr ffoes gyda chriw o ddilynwyr i amffitheatr El Jem a llwyddodd i wrthsefyll yr Arabiaid am bedair blynedd arall gan droi'r amffitheatr yn gaer.
[golygu] Gweler hefyd
[golygu] Dolenni allanol
- Oriel o luniau
- (Ffrangeg) Lluniau o'r safle yn 1901 gan Paul Marre Philipon
- (Ffrangeg) Safle Unesco : tudalen am El Jem
|
|||
Bulla Regia · Carthago · Chemtou · Dougga · Amffitheatr El Jem · Gigthis · Haïdra · Kerkouane · Makthar · Musti · Oudna · |