Ankst
Oddi ar Wicipedia
Ankst | |
![]() |
|
Rhiant gwmni: | |
---|---|
Sefydlwyd: | 1988 |
Sylfaenydd: | Alun Llwyd, Gruffudd Jones ac Emyr Glyn Williams |
Dosbarthu: | |
Math o gerddoriaeth: | Amrywiaeth annibynol |
Gwlad: | Cymru |
Gwefan swyddogol: | |
Roedd Ankst yn label recordio annibynol Cymraeg. Sefydlwyd yn 1988 ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth gan Alun Llwyd, Gruffudd Jones ac Emyr Glyn Williams. Wedi rhyddhau sawl caset ar raddfa bychain, symudodd y label i Gaerdydd a daeth yn bwysicach ym myd cerddoriaeth. Roeddent yn gyfrifol am lwyddiant sawl band Cymraeg gan gynnwys Llwybr Llaethog, Super Furry Animals a Gorky's Zygotic Mynci.
Rhwng 1988 a 1997, rhyddhawyd tua 80 o recordiau cyn iddynt wahanu yn ddau gwmni, sef 'Rheoli Ankst Management Ltd.' (sy'n cael ei redeg gan Alun Llwyd a Gruffudd Jones, sy'n gyfrifol am edrych ar ôl y Super Furry Animals, Gorky's Zygotic Mynci, The Longcut, ac am gyfnod, Cerys Matthews) ac Ankstmusik, y label (sydd heddiw wedi ei seilio ym Mhentraeth ar Ynys Môn ac yn cael ei redeg gan Emyr Williams), sy'n rhyddhau recordiau gan fandiau megis y Tystion, Ectogram, Zabrinski, Rheinallt H Rowlands, MC Mabon a Wendykurk.