Pentraeth
Oddi ar Wicipedia
Pentref hanesyddol yn ne-ddwyrain Môn, gogledd Cymru, yw Pentraeth, ar lôn yr A5025. Fe'i lleolir yng nghwmwd Dindaethwy, cantref Rhosyr. Ystyr yr enw yw "diwedd y traeth" ond erbyn heddiw mae'r môr (Y Traeth Coch) yn filltir i ffwrdd o'r pentref.
Ceir hen chwareli yn y bryniau isel ger y pentref. I'r dwyrain o'r eglwys ceir tri maen hir a elwir Y Tair Naid. Heb fod ymhell o'r pentref i gyfeiriad y gorllewin mae traddodiad yn nodi'r man lle cyflawnodd y bardd Einion ap Gwalchmai "Naid Abernodwydd".
[golygu] Brwydr Pentraeth
Ar farwolaeth Owain Gwynedd yn 1170, bu brwydro rhwng ei feibion am arglwyddiaeth Gwynedd. Gorfodwyd y bardd-dywysog Hywel ab Owain Gwynedd i ffoi i Iwerddon gan ei hanner-brodyr Dafydd ab Owain Gwynedd a Rhodri. Dychwelodd Hywel yr un flwyddyn gyda byddin o Iwerddon, ond trechwyd ef a'i ladd gan Dafydd a Rhodri ym mrwydr Pentraeth.
Trefi a phentrefi Môn |
Aberffraw | Amlwch | Benllech | Biwmares | Bodedern | Bodewryd | Bodffordd | Bryngwran | Brynrefail | Brynsiencyn | Caergeiliog | Caergybi | Carreglefn | Cemaes | Cerrigceinwen | Dwyran | Y Fali | Gaerwen | Gwalchmai | Heneglwys | Llanallgo | Llanbabo | Llanbedrgoch | Llandegfan | Llandyfrydog | Llanddaniel Fab | Llanddeusant | Llanddona | Llanddyfnan | Llaneilian | Llanfachreth | Llanfaelog | Llanfaethlu | Llanfairpwllgwyngyll | Llanfair-yn-neubwll | Llanfair-yng-Nghornwy | Llan-faes | Llanfechell | Llangadwaladr | Llangaffo | Llangefni | Llangoed | Llangristiolus | Llaniestyn | Llannerch-y-medd | Llanrhuddlad | Llansadwrn | Llanynghenedl | Malltraeth | Moelfre | Niwbwrch | Penmynydd | Pentraeth | Pentre Berw | Penysarn | Pontrhydybont | Porthaethwy | Rhosneigr | Rhosybol | Rhydwyn | Trearddur | Trefor | Tregele |