Ankstmusik
Oddi ar Wicipedia
Ankstmusik | |
Rhiant gwmni: | |
---|---|
Sefydlwyd: | 1998 |
Sylfaenydd: | Emyr Glyn Williams |
Dosbarthu: | |
Math o gerddoriaeth: | Amrywiaeth annibynol |
Gwlad: | Cymru |
Gwefan swyddogol: | Ankst.net |
Label recordio yw Ankstmusik, a grewyd pan wahanodd cwmni Ankst yn ddau yn 1998. Mae wedi ei seilio ym Mhentraeth ar Ynys Môn ac yn cael ei redeg gan Emyr Glyn Williams, sy'n rhyddhau recordiau gan fandiau megis y Tystion, Ectogram, Zabrinski, Rheinallt H Rowlands, MC Mabon a Wendykurk.
Yn 2005 dechreuodd Ankstmusik gynhyrchu ffilmiau, gan greu Y Lleill, ffilm ddwy-ieithog a aeth ymlaen i ennill BAFTA ar gyfer y ffilm orau yn seremoni gwobrwyo Bafta Cymru 2006[1] yn ogystal ac ennil sawl gwobr arall. Mae eu cynhyrchiad diweddaraf, Nobody Knows if it Ever Happened, yn dogfennu gig y grŵp krautrock, Faust yn Llundain yn 1996.