Arian cyfred
Oddi ar Wicipedia
Arian cyfred yw'r term am yr arian a ddefnyddir gan wlad neu wladwriaeth fel ei arian swyddogol. Fel rheol mae'n cael ei fathu gan lywodraeth y wlad ac mae ei ddefnydd fel cyfrwng cyfnewid (h.y. i brynu a gwerthu nwyddau a gwasanaethau) yn cael ei gyfyngu i'r wlad ei hun. Y Bunt Sterling yw arian cyfredol y Deyrnas Unedig tra bod yr Ewro yn cael ei ddefnyddio yn yr Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys Gweriniaeth Iwerddon. Mewn achosion eraill gall wlad gael mwy nag un arian breiniol sy'n ddilys yn y wlad honno.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.