Gweriniaeth Iwerddon
Oddi ar Wicipedia
|
|||||
Arwyddair: Dim | |||||
Anthem: Amhrán na bhFiann ("Cân y Milwr") |
|||||
Prifddinas | Dulyn | ||||
Dinas fwyaf | Dulyn | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Gwyddeleg a Saesneg | ||||
Llywodraeth | Gweriniaeth | ||||
• Arlywydd • Taoiseach |
Mary McAleese Bertie Ahern |
||||
Annibyniaeth • Datganwyd • Cydnabuwyd |
o'r Deyrnas Unedig 21 Ionawr 1919 6 Rhagfyr 1922 |
||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
70,273 km² (120fed) 2.0 |
||||
Poblogaeth - Amcangyfrif 2006 - Cyfrifiad 2006 - Dwysedd |
4,239,848 (121af) 4,234,925 60.3/km² (139fed) |
||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2005 $167.9 biliwn (49fed) $34,100 (139fed) |
||||
Indecs Datblygiad Dynol (2003) | 0.946 (8fed) – uchel | ||||
Arian cyfred | Euro (€) (EUR ) |
||||
Cylchfa amser - Haf |
GMT (UTC0) IST (UTC+1) |
||||
Côd ISO y wlad | .ie | ||||
Côd ffôn | +353 |
Gweriniaeth ar ynys Iwerddon yw Gweriniaeth Iwerddon (Gwyddeleg: Poblacht na hÉireann, Saesneg: Republic of Ireland; yn swyddogol Éire neu Ireland). Dulyn yw prifddinas y weriniaeth. Mae'n cynnwys 26 o 32 sir Iwerddon.
Gelwir pennaeth y wladwriaeth yn 'Uachtarán' neu Arlywydd, ond y 'Taoiseach' ydyw pennaeth y llywodraeth neu'r Prif Weinidog.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Daearyddiaeth
[golygu] Hanes
Mae'n anodd penderfynu pryd yn union y sefydlwyd 'Gweriniaeth Iwerddon'. Yn 1921 llofnodwyd Cytundeb rhwng cynrychiolwyr y Weriniaeth Wyddelig (Gwyddeleg: Saorstát Éireann) a chynrychiolwyr Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon yn sefydlu Gwladwriaeth Rydd Iwerddon (Saesneg: Irish Freestate), roedd yr enw Saesneg, Irish Freestate, yn gyfieithiad llythrennol o enw Gwyddeleg y Weriniaeth Wyddelig, ond o dan y cytundeb hwn, roedd y wladwriaeth newydd yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig ac roedd Brenin Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon i barhau fel brenin Iwerddon. Arweinodd hyn at ryfel cartref a gollwyd gan y gweriniaethwyr a sefydlwyd gwladwriaeth Wyddelig gyda Brenin Prydain Fawr ac Iwerddon yn frenin arni.
[golygu] Cyfansoddiad 1937
Yn 1937 cynhaliwyd refferendwm i sefydlu cyfansoddiad newydd i Iwerddon, y cyfansoddiad sydd mewn grym o hyd. Nid oedd unrhwy son yn y cyfansoddiad hwn am na brenin na chynrychiolydd Brenhinol yn Iwerddon, er ni fu i'r cyfansoddiad ddweud bod Iwerddon bellach yn wladwriaeth nac yn hollol annibynnol. I bob pwrpas roedd y cysylltiad rhwng y Deyrnas Unedig a'r Wladwriaeth Rydd ar ben. O dan y cyfansoddiad hwn Iwerddon (Éire, Ireland) oedd enw'r wlad, nid y Weriniaeth Rydd, a dyma'r sefyllfa gyfreithiol hyd heddiw.
[golygu] Deddf Gweriniaeth Iwerddon
Yn 1949 pasiwyd Deddf gan Senedd Iwerddon o'r enw 'Deddf Gweriniaeth Iwerddon' a ddatganodd yn glir bod Iwerddon yn Weriniaeth. Ni newidiodd y Ddeddf hon gyfansoddiad 1937 ac mewn gwirionedd nid oedd ynddi ond datganiad clir a diamwys o'r sefyllfa fel y roedd mewn gwirionedd.
Nid yw'r wladwriaeth Wyddeleg yn defnyddio'r enw 'Gweriniaeth Iwerddon' i ddisgrifiio ei hunan o gwbl, mewn cytundebau rhynwgladwol a chyfansoddiadol Iwerddon (Éire, Ireland) yw'r enw a ddefnyddir.
[golygu] Y Werinaeth Wyddelig a Gweriniaeth Iwerddon
Nid yw'r ddau derm hyn yn gyfystyr â'i gilydd. Defyddir yr enw 'y Weriniaeth Wyddelig' (Saesneg: The Irish Repblic) i gyfeirio at y wladwriaeth chwildroadol a sefydlwyd yn 1916 gyda gwrthryfel y Pasg yn Nulyn a mannau eraill yn Iwerddon. Dyma'r wladwriaeth a anfonodd gynrychiolwyr i negodi gyda chynrychiolwyr Prydain Fawr ac Iwerddon yn 1921. Gwrthododd nifer helaeth o'r boblogaeth a'r Dáil (Senedd Iwerddon) dderbyn bod y wladwriaeth hon wedi dod i ben pan sefydlwyd y 'Wladwriaeth Rydd' ac mae rhai'n mynnu bod y wladwriaeth hon yn parhau i fodoli'n de juré (yn ôl y gyfraith o hyd). Dyma'r wladwriaeth a roddodd Byddin Weriniaethol Iwerddon ei theyrngarwch iddi tan yn ddiweddar iawn, ac y mae rhai carfannau 'milwriaethus' yn honni bod y wladwriaeth hon yn bodoli o hyd, er yn guddiedig, a bod pob gwladwriaeth arall (Éire/Ireland a Gogledd Iwerddon) yn anghyfreithlon.
Defnyddir yr enw 'Gweriniaeth Iwerddon' (Saesneg: The Republic of Ireland) ar lafar gwlad i gyfeirio at Éire/Iwerddon wedi pasio Deddf Gweriniaeth Iwerddon.