Banc y Ddafad Ddu
Oddi ar Wicipedia
Banc y Ddafad Ddu oedd enw poblogaidd Banc Aberystwyth a Thregaron Evans, Jones, Davies a'u cwmni. Fe'i sefydlwyd gan griw o borthmyn lleol Ceredigion ar ddiwedd y 18fed ganrif. Mae'n enghraifft dda o'r banciau Cymreig lleol a fodolai ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg.
Roedd pobl yn ei alw Banc y Ddafad Ddu oherwydd fod yr arian papur yn dangos llun o ddafad ddu arno. Roedd y maint a nifer y defaid a bortreadid yn dibynnu ar werth yr arian papur; dim ond oen ddu oedd ar y papurau chweugain (deg swllt) er enghraifft, tra bod un ddafad ar y papur punt a dwy ddafad fawr ar y papurau dwy bunt.
[golygu] Darllen Pellach
- R.C. Jones, Arian: the story of money and banking in Wales (Abertawe, 1978).