Baner Fiet Nam
Oddi ar Wicipedia
Baner goch (sy'n symboleiddio chwyldro a thywallt gwaed) gyda seren aur bum-pwynt yn ei chanol (i gynrychioli undeb y pum grŵp o weithwyr o fewn sosialaeth a Chonffiwsiaeth draddodiadol: y gweithwyr, y gwerinwyr, y deallusion, y ieuenctid, a'r milwyr) yw baner Fiet Nam. Mabwysiadwyd gan Ogledd Comiwnyddol y wlad ar 30 Tachwedd, 1955, blwyddyn ar ôl rhaniad Fiet Nam, a mabwysiadwyd gan y De hefyd yn dilyn ad-uniad y wlad yn 1976 fel Gweriniaeth Sosialaidd Fiet Nam ar ôl diwedd Rhyfel Fiet Nam. Mae'n unfath â'r faner a ddefnyddiwyd gan y mudiad gwrthwynebiad cenedlaethol, dan arweiniad Ho Chi Minh, yn ei frwydr yn erbyn lluoedd Japan oedd yn meddiannu'r wlad yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
[golygu] Ffynonellau
- Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
Afghanistan · Armenia · Azerbaijan1 · Bahrain · Bangladesh · Bhutan · Brunei · Cambodia · Corea (Gogledd Corea · De Corea) · Cyprus · Dwyrain Timor · Emiradau Arabaidd Unedig · Fiet Nam · Georgia1 · Gwlad Iorddonen · India · Indonesia · Irac · Iran · Israel (gweler hefyd tiriogaethau Palesteinaidd) · Japan · Kazakhstan1 · Kuwait · Kyrgyzstan · Laos · Libanus · Malaysia · Maldives · Mongolia · Myanmar · Nepal · Oman · Pakistan · Pilipinas · Qatar · Rwsia1 · Saudi Arabia · Singapore · Sri Lanka · Syria · Tajikistan · Gwlad Thai · Tsieina (Gweriniaeth Pobl China (Hong Kong • Macau) · Gweriniaeth Tsieina (Taiwan)) · Twrci1 · Turkmenistan · Uzbekistan · Yemen