Conffiwsiaeth
Oddi ar Wicipedia

Athroniaeth a ddatblygwyd yn China o ddysgeidiaeth Conffiwsiws (551 CC - 479 CC yw Conffiwsiaeth. Nid yw'n grefydd yn yr un ystyr a chrefyddau fel Cristionogaeth neu Islam; mae ei phrif bwyslais ar foesoldeb a chysylltiadau cymdeithasol. Trwy ddiwyllio'r unigolyn gellir diwyllio llywodraethau, a byddai esiampl dda y llywodraethwr yn dylanwadu ar y bobl gyffredin. Er hynny, bu tuedd i ddwyfoli Conffiwsiws ar ôl ei farwolaeth. Datblygwyd yr athroniaeth ymhellach gan ddisgyblion Conffiwsiws megis Mo Ti a Mensiws.
Yn ystod cyfnod Brenhinllin Han yn China, dewisodd yr Ymerawdwr Wu Gonffiwsiaeth fel yr athroniaeth oedd i lywodraethu'r wladwriaeth. Collodd Conffiwsiaeth rywfaint o ddylanwad yng nghyfnod Brenhinllin Tang, ond parhaodd yn elfen bwysig iawn ym mywyd China am dros 2,000 o flynyddoedd. Dioddefodd yn ystod y Chwyldro Diwylliannol dan Mao Tse Tung, ond ers hynny mae diddordeb ynddi wedi dechrau cynyddu eto yn China.
Dylanwadodd Conffiwsiaeth ar ddiwylliant China, Taiwan, Japan, Corea a Fietnam.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Cyril G. Williams Crefyddau'r Dwyrain (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1968)