Bangor (Gogledd Iwerddon)
Oddi ar Wicipedia
- Am y ddinas yng Ngwynedd gweler Bangor. Gweler hefyd Bangor (gwahaniaethu).
Tref fawr yn Swydd Down, Gogledd Iwerddon, yw Bangor (Gwyddeleg: Beannchor), gyda phoblogaeth drefol o 76,851 o bobl (Cyfrifiad 2001), sy'n ei gwneud y dref fwyaf poblog yng Ngogledd Iwerddon. Tref glan môr yw hi, a leolir ar lan ddeheuol Belfast Lough yn Ardal Fetropolitanaidd Belfast. Marina Bangor yw un o'r rhai mwyaf yn Iwerddon gyfan, gyda statws Baner Las. Yn 2007, cafodd y dref ei hethol gan wylwyr UTV fel y lle mwyaf deniadol i fyw ynddo yng Ngogledd Iwerddon.
Tref breswyl ydyw yn bennaf, a gellid ei hystyried yn dref gomiwter ar gyfer ardal Belffast Fwyaf, a gysylltir â Bangor gan y ffordd A2 a rheilffordd uniongyrchol. Gorwedd Bangor 13.6 milltir (22 km) o ganol dinas Belfast ac yn agos iawn hefyd i Maes Awyr George Best Dinas Belffast.