Bangor (Morbihan)
Oddi ar Wicipedia
- Erthygl yw hon am y pentref yn Llydaw: gweler hefyd Bangor a Bangor (gwahaniaethu).
Pentref (commune) yn Llydaw yw Bangor (Llydaweg; yr un yw'r sillafiad yn Ffrangeg), yn département Morbihan. Mae'n un o bedwar commune ar ynys Belle-Île-en-Mer.
Wedi ei leoli ym Mangor, y Grand Phare yw un o'r goleudai gorau ar arfordir Ffrainc. Fe'i adeiladwyd ym 1935. Yn sefyll ar ei sylfaen gwenithfaen, mae'n codi 47 m o'r tir gan ei wneud yn tua 84 m uwchben lefel y môr. Gellir gweld ei olau hyd at 28 milltir allan ar y môr.
Yn ôl cyfrifiad 1999, mae gan y pentref boblogaeth o 738. Gelwir trigolion Bangor yn Fangoriaid (Bangorins yn Ffrangeg).
[golygu] Dolenni allanol
- Tudalen am Fangor, gwefan Belle Île (Saesneg)
- Diwylliant ym Mangor (Ffrangeg)
- Map o Fangor ar Michelin (Saesneg)