Bodowyr (siambr gladdu)
Oddi ar Wicipedia
Mae Bodowyr yn siambr gladdu gerllaw Brynsiencyn ar Ynys Môn sy'n dyddio o'r cyfnod Neolithig, tua 3000 C.C. i 2500 C.C.. Mae'n siambr gladdu weddol syml gyda chyntedd, yn un o bedair siambr gladdu o'r math yma ar yr ynys. Yn wreiddiol byddai carnedd dros y siambr, a chofnodir olion o garnedd mewn disgrifiadau cynnar, ond nid oes dim ohoni i'w gweld heddiw. Mae meini'r cyntedd hefyd wedi diflannu.
Gellir cyrraedd y safle wrth droi i'r dde yn syth ar ôl y troead wrth adael Brynsiencyn ar y briffordd A4080 i gyfeiriad Niwbwrch. Mae'r troead yma'n arwain heibio safle Caer Lêb, yna wedi mynd yn syth ymlaen yn y groesffordd nesaf mae'r siambr gladdu mewn cae ar y dde.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Lynch, Frances (1995) Gwynedd (A guide to ancient and historic Wales) (Llundain:HMSO) ISBN: 0-11-701574-1
Siamberi Claddu ar Ynys Môn | ![]() |
|
---|---|---|
Barclodiad y Gawres | Bodowyr | Bryn Celli Ddu | Din Dryfol | Llugwy | Pant y Saer | Presaddfed | Trefignath | Tŷ Newydd |
||