Pant y Saer
Oddi ar Wicipedia
Mae Pant y Saer yn siambr gladdu gerllaw Benllech ar Ynys Môn sy'n dyddio o'r cyfnod Neolithig, tua 3000 C.C. i 2500 C.C.. Mae'n siambr gladdu fechan, ac mae'r garreg uchaf wedi llithro tua'r dwyrain ac yn gorwedd ar ongl. Mae'r cerrig neu garreg ar yr ochr orllewinol wedi diflannu.
Bu cloddio archaeolegol yma yn 1875 ac yn 1932. Cafwyd hyd i weddillion 54 o bobl, gwŷr, gwragedd a phlant, yn y siambr, sy'n awgrymu ei bod wedi ei defnyddio dros gyfnod hir. Roedd rhai darnau o grochenwaith hefyd.
Gellir cyrraedd y safle wrth droi i'r chwith yng nghanol Benllech ar y ffordd B5108 i gyfeiriad Brynteg. Hanner milltir ymlaen mae llwybr cyhoeddus yn arwain rhwng dau dŷ, ac mae'r llwybr yma yn arwain heibio'r siambr gladdu, er nad yw'r arwyddion yn cyfeirio at y siambr.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Lynch, Frances (1995) Gwynedd (A guide to ancient and historic Wales) (Llundain:HMSO) ISBN: 0-11-701574-1
Siamberi Claddu ar Ynys Môn | ![]() |
|
---|---|---|
Barclodiad y Gawres | Bodowyr | Bryn Celli Ddu | Din Dryfol | Llugwy | Pant y Saer | Presaddfed | Trefignath | Tŷ Newydd |
||