Brennus
Oddi ar Wicipedia
Mae Brennus (neu Brennos) yn enw ar ddau bennaeth Celtaidd a wnaeth enw iddynt eu hunain trwy eu hymgyrchoedd milwrol:
- Brennus (4edd ganrif CC), pennaeth llwyth y Senones a gipiodd ddinas Rhufain tua 387 CC.
- Brennus (3edd ganrif CC), (bu farw 279 CC), arweinydd y fyddin Geltaidd a ymosododd ar Facedonia a gogledd Groeg.
Yn llyfr Sieffre o Fynwy, Historia Regum Britanniae, mae hanes am gymeriad o'r enw "Brennius" sy'n concro Rhufain; efallai wedi ei greu gan Sieffre ar sail y ddau Brennus hanesyddol.
Mae'n debyg fod yr enw yn dod o'r un gwreiddyn a'r gair Cymraeg "Brenin", ac efallai ei fod yn deitl yn hytrach nag yn enw personol.