Brennus (3edd ganrif CC)
Oddi ar Wicipedia
- Am y "Brennus" a gipiodd ddinas Rhufain ganrif ynghynt, gweler Brennus (4edd ganrif CC).
Roedd Brennus (or Brennos) (bu farw 279 CC) yn un o arweinwyr y fyddin o wahanol lwythi Galaidd a ymosododd ar Facedonia a gogledd Groeg ac a orchfygodd y Groegiaid mewn brwydr yn Thermopylae, cyn ceisio anrheithio Delphi. Ceir yr hanes gan yr haneswyr Pausanias a Junianus Justinus.
Dywed Strabo fod Brennus yn perthyn i lwyth y Prusi, nad oes cofnod amdanynt fel arall. Roedd Galiaid wedi ymsefydlu yn Pannonia oherwydd tŵf y boblogaeth yng Ngâl, a phan godasant fyddin i geisio concro tiroedd eraill daeth Brennus yn un o'r arweinwyr. Prif arweinydd y fyddin ar y cyntaf oedd Cambaules, a'u harweiniodd cyn belled a Thrace, lle arosasant am gyfnod. Yn 279 CC, ffurfiasant dair byddin i ymosod ar y gwledydd o'u cwmpas, un ohonynt dan arweiniad Brennus a Acichorius. Bu'r rhain yn llwyddiannus, ac ar argymhelliad Brennus ffurfiwyd un fyddin fawr dan ei arweiniad ef ac Acichorius i ymosod ar y Groegiaid.
Bu brwydr rhyngddynt hwy a byddin Roegaidd dan yr Atheniad Calippus yn Thermopylae, Bu'r Groegiaid yn llwyddiannus ar y cyntaf, ond fel y Persiaid ym Brwydr Thermopylae ddwy ganrif ynghynt, gyrroedd y Galiaid ran o'r fyddin trwy'r mynyddoedd i ymosod o'r tu cefn, a gorchfygwyd y Groegiaid.
Dywed Pausanias a Junianus Justinus fod y Galiaid yn awr wedi ymosod ar Delphi, gyda'r bwriad o anrheithio cysegr Apollo. Gorchfygwyd hwy gyda chymorth storm enbyd o fellt a tharanau, a bu raid iddynt encilio mewn anrhefn. Dywed Pausanias i Brennus ei ladd ei hun trwy yfed gwin heb ddŵr ynddo, tra dywed Justinus ei fod wedi ei drywanu ei hun.