Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Oddi ar Wicipedia
Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn gorff statudol a sefydlwyd gan Lywodraeth Prydain fel rhan o Ddeddf Iaith 1993. Mae'n derbyn grant blynyddol gan y llywodraeth, £13.4 miliwn yn 2006–7, sydd i fod i'w ddefnyddio er mwyn "hybu a hwyluso" defnydd o'r iaith Gymraeg. Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am weinyddu Deddf yr Iaith Gymraeg, ac am sicrhau bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn cadw at ei rheolau.
Cadeirydd cynta'r Bwrdd oedd Dafydd Elis-Thomas. Y cadeirydd ers Awst 2004 yw Meri Huws.
[golygu] Agweddau at y Bwrdd
Mae rhai wedi beirniadu'r Bwrdd, yn honni nad oes grym ganddo dros y cyrff cyhoeddus ac yn ei feirniadu am fethu hyrwyddo'r iaith o fewn y sector preifat.
Mae ymgyrchwyr dros y Gymraeg yn gweld y Bwrdd fel offeryn diddannedd a biwrocrataidd yn yr ymgyrch i arbed yr iaith Gymraeg. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ei feirniadu'n llym, gan ymgyrchu am ddeddf iaith newydd.