Dafydd Elis-Thomas
Oddi ar Wicipedia
Aelod Cynulliad (AC) Dwyfor Meirionnydd a Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw Dafydd Elis Elis-Thomas, neu'r Arglwydd Elis-Thomas (ganwyd 18 Hydref, 1946). Mae hefyd yn Lywydd Prifysgol Cymru, Bangor ac yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi.
Ganwyd Elis-Thomas yng Nghaerfyrddin, yn fab i weinidog yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru, a chafodd ei fagu yn Llandysul a Llanrwst.
Fe’i etholwyd yn Aelod Seneddol yn Chwefror 1974, yr un adeg â Dafydd Wigley, pryd y cafodd Plaid Cymru dau, wedyn yn dilyn etholiad mis Hydref, tri, aelod am y tro cyntaf. Ar y cychwyn, ef oedd yr aelod ieuengaf yn Nhŷ’r Cyffredin. Gadawdd Tŷ'r Cyffredin Prydeinig ym 1983, ac ym 1992 fe’i enwebwyd i fod yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi, fel Barwn Elis-Thomas.
Rhwng 1994 a 1999 bu’n Gadeirydd i Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
Ym 1970 priododd Elen M. Williams ac mae ganddynt dri mab. Wedi ysgariad, bu'n bartner i Marjorie Thompson, cadeirydd CND. Ym 1993 priododd Mair Parry Jones.
Rhagflaenydd: William Edwards |
Aelod Seneddol dros Feirionnydd 1974 – 1983 |
Olynydd: etholaeth abolished |
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol dros Feirionnydd Nant Conwy 1983 – 1992 |
Olynydd: Elfyn Llwyd |
Rhagflaenydd: Bernadette Devlin |
Baban y Tŷ 1974 |
Olynydd: Hélène Hayman |
Rhagflaenydd: swydd newydd |
Aelod Cynulliad dros Feirionnydd Nant Conwy 1999 – 2007 |
Olynydd: etholaeth abolished |
Rhagflaenydd: swydd newydd |
Aelod Cynulliad dros Ddwyfor Meirionnydd 2007 – presennol |
Olynydd: deiliad |
Rhagflaenydd: Dim |
Llywydd y Cynulliad 1999 – presennol |
Olynydd: deiliad |
Rhagflaenydd: Dafydd Wigley |
Arlywydd Plaid Cymru 1984 – 1991 |
Olynydd: Dafydd Wigley |