Meri Huws
Oddi ar Wicipedia
Cadeirydd presennol Bwrdd yr Iaith Gymraeg yw Meri Huws (ers 2004). Yn enedigol o Gaerfyrddin, cafodd ei haddysg yn Ysgol Uwchradd Abergwaun, Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle astudiodd y gyfraith a gwleidyddiaeth, a Phrifysgol Rhydychen. Mae hi'n bennaeth ar Adran Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Bangor, ac yn ddirprwy is-ganghellor.
Hi oedd cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg o 1981 i 1983, ac roedd yn aelod arferol o'r Bwrdd rhwng 1993 a 1997. Mae hi'n aelod o'r Blaid Lafur.