Campania
Oddi ar Wicipedia
Rhanbarth yn ne yr Eidal yw Campania; yn ffinio ar ranbarth Latium yn y gogledd-orllewin, Abruzzo a Molise yn y gogledd, Apulia yn y gogledd-ddwyrain, Basilicata yn y dwyrain a'r môr yn y gorllewin. Yn y cyfnod Rhufeinig, fe'i gelwid yn Campania felix, Mae gan y rhanbarth arwynebedd o 13,595 km sgwar a phoblogaeth o 5.8 miliwn. Y ddinas fwyaf yw Napoli.
Roedd Campania yn rhan o Magna Graecia, y trfedigaethau Groegaidd yn ne yr Eidal. Yn ddiweddarach daeth dan reolaeth Rhufain. Yn 217 CC daeth byddin Hannibal i Campania, a newidiodd prif ddinas Campania, Capua, ei hochr a'i gefnogi. Yn ddiweddarach, rhoddwyd Capua dan warchae gan fyddin Rufeinig, a bu raid iddi ildio yn 211 CC. Yn yr 11eg ganrif concrwyd ac ail-unwyd Campania gan y Normaniaid dan Robert Guiscard.
Ymhlith atyniadau Campania i ymwelwyr mae Ogof y Sibyl yn Cumae, temlau Groegaidd Paestum, adfeilion Rhufeinig Pompeii a Herculaneum, llosgfynydd Vesuvius, arfordir Amalfi (Costiera Amalfitana), Penrhyn Sorrento (Penisola Sorrentina) ac ynysoedd Capri, Ischia a Procida.
Rhanbarthau 'r Eidal | ![]() |
---|---|
Abruzzo | Basilicata | Calabria | Campania | Emilia-Romagna | Lazio | Liguria | Lombardia | Marche | Molise | Piemonte | Puglia | Toscana | Umbria | Veneto | |
Friuli-Venezia Giulia | Sardegna | Sicilia | Trentino-Alto Adige | Val d'Aosta |