Catrin o Ferain
Oddi ar Wicipedia
Boneddiges o Gymraes oedd Catrin o Ferain (1534–27 Awst 1591). Ei llysenw oedd "Mam Cymru".
Merch Tudur ap Robert Fychan a Jane Velville (merch Syr Roland de Velville, mab gordderch Harri VII, brenin Lloegr), oedd hi. Roedd hi'n perchen ystadau eang yn Nyffryn Clwyd ynghyd â phlas Penmynydd, hen gartref Tuduriaid Môn.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Priododd bedair gwaith:
- Syr Siôn Salsbri o Leweni
- Syr Rhisiart Clwch o Ddinbych
- Maurice Wynn o Wydir
- Edward Thelwall o Blas-y-Ward, Dinbych
Roedd Catrin yn adnabyddus fel noddwraig y beirdd. Canodd y bardd Wiliam Cynwal iddi fel "cannwyll Gwynedd" mewn cwpled sydd bellach yn enwog:
- 'Catrin wych, wawr ddistrych wedd,
- Cain ei llun, cannwyll Gwynedd.'
[golygu] Plant
- Thomas Salisbury
[golygu] Disgynnydd
- Hester Thrale, ffrind Samuel Johnson
[golygu] Ffuglen
Ceir tair nofel hanesyddol arbennig am Catrin gan R. Cyril Hughes:
- Catrin o Ferain (1975)
- Dinas Ddihenydd (1976)
- Castell Cyfaddawd (1984)