Penmynydd
Oddi ar Wicipedia
Mae Penmynydd yn bentref ar Ynys Môn, ar y ffordd gefn B5420 rhwng Porthaethwy a Llangefni.
Mae'r pentref yn fwyaf adnabyddus oherwydd teulu Tuduriaid Penmynydd, disgynyddion Ednyfed Fychan. Yma y cafodd Owain Tudur ei eni yn 1400, a fu yn ymladd gyda'r brenin Harri'r V a priododd weddw y brenin Catherine de Valois, pan fu hwnnw farw. Cafodd ei garcharu a'i ladd am hynny. Roedd Harri'r VII yn wyr iddo.
Adeiladwyd y plasdy presennol, Plas Penmynydd, yn 1576, ond bu plasdy cynharach ar yr un safle neu gerllaw. Ymwelodd y bardd Iolo Goch â'r plasdy rhywbryd yn y cyfnod 1367-82. Mae'n moli croeso hael Gronwy ap Tudur (Gronw Fychan) ac yn cymharu Penmynydd i aelwyd llys Urien Rheged:
- 'Cyntaf lle'r af, llew a rydd,
- Caer Pen Môn, carw Penmynydd,
- Tŷ, gwelais gynt, teg wiwle,
- Tudur Llwyd, da ydyw'r lle;
- Yno mae, heb gae ar ged,
- Ail drigiant aelwyd Rheged.'[1]
Mae beddfaen alabaster cerfiedig Gronw Fychan, a fu farw yn 1382, gyda'i wraig Myfanwy, i'w weld yn eglwys y plwyf, sydd wedi ei chysegru i Sant Gredifael.
Adeiladwyd yr eglwys bresennol yn y 14eg ganrif, yn ail-ddefnyddio rhai cerrig o'r eglwys flaenorol, a adeiladwyd yn y 12fed ganrif. Mae'n cynnwys ffenestr liw gyda nifer o symbolau'r Tuduriaid a'r arwyddair Undeb fel Rhosyn yw ar lan Afonydd ac fel Tŷ Dur ar Ben y Mynydd.
Adeiladau eraill o ddiddordeb yn y pentref yw'r hen elusendai, a adeiladwyd yn 1620 yn unol ag ewyllys Lewis Rogers.
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988). Cerdd V, ll. 47-52
[golygu] Cysylltiad allanol
Trefi a phentrefi Môn |
Aberffraw | Amlwch | Benllech | Biwmares | Bodedern | Bodewryd | Bodffordd | Bryngwran | Brynrefail | Brynsiencyn | Caergeiliog | Caergybi | Carreglefn | Cemaes | Cerrigceinwen | Dwyran | Y Fali | Gaerwen | Gwalchmai | Heneglwys | Llanallgo | Llanbabo | Llanbedrgoch | Llandegfan | Llandyfrydog | Llanddaniel Fab | Llanddeusant | Llanddona | Llanddyfnan | Llaneilian | Llanfachreth | Llanfaelog | Llanfaethlu | Llanfairpwllgwyngyll | Llanfair-yn-neubwll | Llanfair-yng-Nghornwy | Llan-faes | Llanfechell | Llangadwaladr | Llangaffo | Llangefni | Llangoed | Llangristiolus | Llaniestyn | Llannerch-y-medd | Llanrhuddlad | Llansadwrn | Llanynghenedl | Malltraeth | Moelfre | Niwbwrch | Penmynydd | Pentraeth | Pentre Berw | Penysarn | Pontrhydybont | Porthaethwy | Rhosneigr | Rhosybol | Rhydwyn | Trearddur | Trefor | Tregele |