Catuvellauni
Oddi ar Wicipedia
Llwyth Celtaidd yn ne-ddwyrain Lloegr oedd y Catuvellauni. Roeddynt yn un o'r llwythau oedd yn bathu eu harian eu hunain, a gellir casglu rhywfaint o'u hanes o'r arian yma.
Pan ymosododd Iŵl Cesar ar Brydain am y tro cyntaf yn 54 CC, ei brif wrthwynebydd oedd Cassivellaunus. Nid yw Cesar yn crybwyll i ba lwyth yr oedd yn perthyn, ond dywed fod ei diriogaethau i'r gogledd o Afon Tafwys yn yr ardaloedd lle cofnodir llwyth y Catuvellauni ychydig yn ddiweddarach. Credir fod y cloddiau yn Devil's Dyke ger Wheathampstead, Swydd Hertford yn dynodi man prifddinas wreiddiol y llwyth.
Bathodd y brenin Tasciovanus arian yn Verlamion, o tua 20 CC ymlaen. Ymddengys iddo ymestyn ei diriogaethau tua'r dwyrain a chipio Camulodunum (Colchester heddiw), oddi wrth y Trinovantes. Bathodd arian yn Camulodunum tua 15-10 CC. Ymddengys i'r Trinovantes gael Camulodunum yn ôl am gyfnod, oherwydd bathwyd arian diweddarach yn Verlamion eto.
Ail-gipiwyd Camulodunum gan Tasciovanus neu gan ei fab Cunobelinus, a'i dilynodd ar yr orsedd tua 9 OC. Yn ddiweddarach daeth Cunobelinus yn ffigwr pwysig yn hanesion Sieffre o Fynwy. Ymddengys mai'r Catuvellauni oedd y llwyth cryfaf yn ne-ddwyrain Lloegr yn y cyfnod yma, ac enillodd brawd Cunobelinus, Epaticcus, diriogaeth oddi wrth yr Atrebates.
Cofnodir tri mab i Cunobelinus, Adminius, a alltudiwyd gan ei dad ychydig cyn 40 OC, Togodumnus a Caradog (Caratacus). Ymddengys i Garadog frwydro yn erbyn llwyth cyfagos yr Atrebates a’u gorchfygu. Ffôdd Verica, brenin yr Atrebates, i Rufain ac apeliodd i’r ymerawdwr Claudius am gymorth i adennill ei deynas. Rhoddodd hyn esgus i Claudius ymosod ar Ynys Prydain yn 43 OC.
Pan laniodd y Rhufeiniaid dan Aulus Plautius, gwrthwynebwyd hwy gan Togodumnus a Caradog. Gorchfygwyd hwy gan Plautius mewn dwy frwydr ar Afon Medway ac Afon Tafwys, a lladdwyd Togodumnus. Ffodd Caradog tua'r gorllewin at y llwythau Cymreig, yn gyntaf y Silwriaid ac yna'r Ordoficiaid, cyn cael ei orchfygu gan Publius Ostorius Scapula yn 51. Ffodd Caradog at y Brigantes, ond trosglwyddodd eu brenhines, Cartimandua, ef yn garcharor i'r Rhufeiniaid.
Sefydlwyd municipium Thufeinig Verulamium, (St Albans heddiw) gerllaw Verlamion.
Fe all enw'r llwyth fod yr un gair a'r enw Cymraeg Cadwallon.