Celtiberiaid
Oddi ar Wicipedia
Roedd y Celtiberiaid (neu Celt-Iberiaid) yn bobl sy'n cael eu crybwyll gan yr haneswyr Diodorus Siculus, Appian a Martial fel pobl oedd yn gymysgedd o Geltiaid ac Iberiaid; yn ôl Strabo yr elfen Geltaidd oedd gryfaf. Roeddynt yn byw ar Benrhyn Iberia, yn y rhan sy'n awr yn ganol a gogledd Sbaen a gogledd Portiwgal. Ffurfiwyd hwy pan ymfudodd Celtiaid o Gâl a chymysgu a'r bobl leol.
Mae tystiolaeth am yr iaith Geltibereg o'r ganrif gyntaf CC.. Credir fod Celtiaid yn bresennol yn Sbaen cyn gynhared a'r 6ed ganrif CC, pan adeiladwyd y castros gyda muriau cerrig a ffosydd amddiffynnol. Mae'n debyg fod nifer o lwythau Celtiberaidd gwahanol; y llwyth cryfaf oedd yr Arevaci. Roedd eu canolfannau o gwmpas rhannau uchaf Afon Tagus ac Afon Douro, ac i'r dwyrain hyd Afon Ebro.
Yn yr Ail Ryfel Pwnig rhwng Carthago a Rhufain, Celtiberiaid oedd llawer o'r milwyr a groesodd yr Alpau gyda Hannibal i ymosod ar yr Eidal. Pan orchfygwyd y Carthaginiaid, bu raid i'r Celtiberiaid ymostwng i Rufain yn 195 CC ond bu mwy o ryfela yn y blynyddoedd nesaf. Cipiwyd dinas Numantia gan Scipio Aemilianus Africanus yn 133 CC. wedi gwarchae hir. Roedd rhai Celtiberiaid yn parhau i ymladd yn erbyn Rhufain yn rhyfel Sertorius, 79 - 72.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Antonio Arribas, The Iberians 1964.
- Barry Cunliffe, 'Iberia and the Celtiberians' yn "The Ancient Celts" (Penguin Books, 1997), ISBN 0-14-025422-6
- J. P. Mallory, In Search of the Indo-Europeans (Thames & Hudson, 1989), ISBN 0-500-05052-X
- Alberto J. Lorrio a Gonzalo Ruiz Zapatero, "The Celts in Iberia: An Overview" yn e-Keltoi 6