Cemaes
Oddi ar Wicipedia
- Gweler hefyd: Cemmaes (ym Mhowys), Cemais (cantref ym Môn) a Cemais (cantref yn Nyfed).
Mae Cemaes yn bentref gweddol fawr ar arfordir gogleddol Ynys Môn, gerllaw Bae Cemaes lle mae Afon Wygyr yn cyrraedd y môr. Saif ger y briffordd A5025 rhwng Amlwch a Llanrhuddlad. Mae'n hawlio bod y pentref mwyaf gogleddol yng Nghymru, er y gellid dadlau fod Llanbadrig fwy i'r gogledd.
Yn y canol oesoedd, Cemaes oedd canolfan cantref Cemais. Pentref gwyliau yw Cemaes yn bennaf erbyn heddiw, er bod pysgota wedi bod yn bwysig yn y gorffennol. Ceir dau draeth, harbwr, amrywiaeth o siopau a nifer o westai. Adeiladwyd yr eglwys, sydd wedi ei chysegru i Sant Padrig yn 1865; cyn hynny eglwys Llanbadrig oedd eglwys y plwyf. Mae'r ardal o gwmpas y pentref yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn mynd heibio'r pentref. Ychydig i'r gorllewin o'r pentref mae gorsaf bŵer niwcliar y Wylfa.
Trefi a phentrefi Môn |
Aberffraw | Amlwch | Benllech | Biwmares | Bodedern | Bodewryd | Bodffordd | Bryngwran | Brynrefail | Brynsiencyn | Caergeiliog | Caergybi | Carreglefn | Cemaes | Cerrigceinwen | Dwyran | Y Fali | Gaerwen | Gwalchmai | Heneglwys | Llanallgo | Llanbabo | Llanbedrgoch | Llandegfan | Llandyfrydog | Llanddaniel Fab | Llanddeusant | Llanddona | Llanddyfnan | Llaneilian | Llanfachreth | Llanfaelog | Llanfaethlu | Llanfairpwllgwyngyll | Llanfair-yn-neubwll | Llanfair-yng-Nghornwy | Llan-faes | Llanfechell | Llangadwaladr | Llangaffo | Llangefni | Llangoed | Llangristiolus | Llaniestyn | Llannerch-y-medd | Llanrhuddlad | Llansadwrn | Llanynghenedl | Malltraeth | Moelfre | Niwbwrch | Penmynydd | Pentraeth | Pentre Berw | Penysarn | Pontrhydybont | Porthaethwy | Rhosneigr | Rhosybol | Rhydwyn | Trearddur | Trefor | Tregele |