Cynan Meiriadog
Oddi ar Wicipedia
Un o arweinwyr yr ymfydwyr Brythonig i Lydaw oedd Cynan Meiriadog, Llydaweg: Konan Meriadeg, (bu farw tua 426). Nid oes sicrwydd a oedd yn gymeriad hanesyddol ai peidio. Dywedir ei fod yn fab i Eudaf Hen ac yn frawd i Elen Luyddog.
Yn rhai ffynonellau Cymreig, er enghraifft Breuddwyd Macsen Wledig ac yng ngwaith Sieffre o Fynwy, roedd Cynan Meiriadog yn gefnder trwy briodas i Macsen Wledig ac yn nai i Octavius. Pan adawodd Macsen am Rufain, gadawodd lywodraeth Llydaw i Gynan a'i filwyr Cymreig.
Mae Cynan yn ymddangos yn stori'r Santes Ursula fel ei darpar-ŵr. Dywedir bod Ursula yn dywysgoges o deyrnas Dumnonia (Dyfnaint). Ar gais ei thad, hwyliodd am Lydaw i briodi Cynan Meiriadog, gyda 11,000 o wyryfon fel gweinyddesau. Gyrrodd storm wyrthiol hwy yr holl fordd i draethau Gâl mewn diwrnod, a phenderfynodd Ursula fynd ar bererindod. Merthyrwyd hwy gan yr Hyniaid yn nias Cwlen yn yr Almaen. Dywedir i hyn ddigwydd tua 383.
Cynan yw sylfaenydd traddodiadol Llinach Rohan yn Llydaw.