Ursula
Oddi ar Wicipedia
Santes Frythonig oedd Ursula (Lladin, yn golygu "arthes fechan"). Ei dydd gŵyl yw 21 Hydref.
Y chwedl yw ei bod yn dywysgoges o deyrnas Dumnonia (Dyfnaint). Ar gais ei thad, hwyliodd am Lydaw at ei darpar-ŵr Cynan Meiriadog, gyda 11,000 o wyryfon fel gweinyddesau. Gyrrodd storm wyrthiol hwy yr holl fordd i draethau Gâl mewn diwrnod, a phenderfynodd Ursula fynd ar bererindod. Aeth i ddinas Rhufain, ac yna ymlaen i ddinas Cwlen, oedd dan warchae gan yr Hyniaid. Merthyrwyd y gwyryfon i gyd, a saethwyd Ursula ei hun yn farw gan arweinydd yr Hyniaid. Dywedir i hyn ddigwydd tua 383.
Ym Masilica y Santes Ursula yng Nghwlen, ceir creiriau y dywedir eu bod yn weddillion Ursula a'r gwyryfon. Mae eglwys Llangwyryfon yn Sir Ceredigion wedi ei chysegru iddynt, a gall fod y Lleucu sy'n nawddsant Betws Leucu yn yr un sir yr un person a Lucia, un o gymdeithion Ursula.