Cysylltiadau rhwng Gwlad Belg a'r Deyrnas Unedig
Oddi ar Wicipedia
![]() ![]() |
|
![]() |
|
██ Gwlad Belg |
Mae cysylltiadau gwleidyddol, diwylliannol ac economaidd cyfeillgar rhwng Gwlad Belg a'r Deyrnas Unedig. Mae'r ddwy yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd, NATO a'r Cenhedloedd Unedig. Cynhelir y Gynhadledd Felgaidd-Brydeinig flynyddol ar yn ail yng Ngwlad Belg a'r DU ers 2000 i drefnu trafodaethau rhwng gwleidyddion, academyddion a gweithwyr proffesiynol ar faterion allweddol sydd yn effeithio ar Wlad Belg, y Deyrnas Unedig, a'r ddwy wlad trwy Ewrop.[1]
O ran cysylltiadau masnachol, y DU yw cyflenwr a marchnad allforio bedwerydd fwyaf Gwlad Belg, a Gwlad Belg yw marchnad allforio chweched fwyaf y DU.[2]
Heddiw, mae tua 50 000 o ddinasyddion Prydeinig yn byw yng Ngwlad Belg, a tua'r unfaint o Felgiaid yn byw yn y Deyrnas Unedig. [1]
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Country Profiles: Belgium. Y Swyddfa Dramor a Chymanwlad. Adalwyd ar 15 Rhagfyr, 2007.
- ↑ (Saesneg) Countries Listing: Belgium. UK Trade & Investment. Adalwyd ar 15 Rhagfyr, 2007.
[golygu] Cysylltiadau allanol
- (Saesneg) Cynhadledd Felgaidd-Brydeinig 2007