D. J. Williams
Oddi ar Wicipedia
Roedd David John Williams (26 Mehefin 1885- 4 Ionawr 1970), neu D.J. Williams neu D.J. Abergwaun, yn llenor ac yn genedlaetholwr a aned yn Rhydcymerau, Sir Gaerfyrddin. Roedd yn gymeriad mawr er yn ddyn tawel ei hunan, a wnaeth gyfraniad pwysig i lên a diwylliant ei wlad; "Y Cawr o Rydcymerau".
Bu'n athro yn Abergwaun am flynyddoedd lawer ac felly fe gyfeirid ato yn aml fel 'D.J. Abergwaun'.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Y llenor
Ysgrifenodd ddau hunangofiant wedi eu lleoli yn ardal Rhydcymerau, sef Hen Dŷ Fferm (1953) ac Yn Chwech ar Hugain Oed (1959). Roedd yn feistr ar y stori fer yn ogystal, fel y mae ei dair cyfrol gynnar, Storïau'r Tir (1936, 1941, 1949) yn dangos. Ystyrir ei gyfrol o bortreadau o rai o hen gymeriadau ei fro enedigol, Hen Wynebau, yn glasur o'i fath.
[golygu] Y gwladgarwr
Roedd yn genedlaetholwr brwd. Yn aelod o'r ILP cyn sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru (sef Plaid Cymru heddiw) yn 1925. Roedd D.J., ynghyd â Saunders Lewis a Lewis Valentine, yn gyfrifol am losgi'r ysgol fomio ym Mhenyberth. Methodd y rheithgor a chytuno a oeddent yn euog yn llys y Goron yng Nghaernarfon, ac o ganlyniad bu ail achos yn eu herbyn yn yr Old Bailey pan y'i cafwyd yn euog ac fe'u carcharwyd.
Roedd cyflwr ariannol Plaid Cymru yng nghanol y 1960au yn echrydus ac mae'n amheus a fyddai wedi gallu ymladd Etholiad Cyffredinol 1966 oni bai i D.J. werthu Penrhiw sef yr Hen Dŷ Ffarm yn ei gyfrol adanbyddus, a rhoi'r arian i Blaid Cymru.
[golygu] Llyfryddiaeth
[golygu] Gwaith D.J.
- Hen Wynebau (1934)
- Storïau'r Tir Glas (1936)
- Storïau'r Tir Coch (1941)
- Storïau'r Tir Du (1949)
- Hen Dŷ Ffarm (1953)
- Mazzini (1954)
- Yn Chwech ar Hugain Oed (1959)
- Codi'r Faner (1968)
- Y Gaseg Ddu (1970). Gol. J. Gwyn Griffiths.
- Y Cawr o Rydcymerau (1970). Casgliad o'i gerddi, gol. D.H. Culpitt a W. Leslie Richards.
[golygu] Astudiaethau
Ceir llyfryddiaeth lawn yn atodiad i'r gyfrol Y Gaseg Ddu.
- Dafydd Jenkins, D.J. Williams (cyfres Writers of Wales, 1973)