Dafydd Ddu Eryri
Oddi ar Wicipedia
Yr oedd David Thomas, sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol Dafydd Ddu Eryri (1759 - 30 Mawrth, 1822) yn fardd ac athro beirdd a aned yn Waunfawr yn yr hen Sir Gaernarfon (Gwynedd).
Roedd yn fab i wehydd ac ym more ei oes bu yntau'n dilyn yr un alwedigaeth. Cafodd fymryn o addysg elfennol gan glerigwr lleol ac aeth yn athro ysgol lleol yn fuan ar ôl marwolaeth ei dad yn 1781. Daeth yn ffigwr pwysig yn niwylliant ei fro a hybai safonau barddoniaeth a dysgodd lu o feirdd lleol. Treuliodd y rhan olaf o'i oes yn Llanrug. Bu farw trwy foddi yn Afon Cegin ar noson ystormus, 30 Mawrth, 1822; cafwyd hyd i'w gorff dranoeth yn ymyl i'r sarn a geisiasai groesi. Fe'i claddwyd ym mynwent Llanrug a chodwyd cofgolofn yno gan ei gymwynaswr Peter Bailey Williams, person y plwyf, i nodi ei fedd.
Roedd yn adnabyddus yn ei ddydd am ei awdlau, carolau a cherddi moesol a chrefyddol. Enillodd y fedal arian am ei awdl 'Rhyddid' yn eisteddfod y Gwyneddigion yn Llanelwy, 1790. Er nad yw o lawer o werth llenyddol mae'n mynegi'r wrthwynebiad cynnydol i gaethwasaieth. Enillodd dlwas arall yn eisteddfod y Gwyneddigion yn Llanrwst, 1791. Cyhoeddwyd detholiad o waith y bardd yn y gyfrol Corph y Gaingc yn 1810.
Er iddo dreulio peth amser yng nghylch y Gwyneddigion ni fedrai ddygymod â Radicaliaeth y mudiad a syniadau rhyfedd William Owen Pughe am yr iaith Gymraeg a'i horgraff. Yn 1783 sefydlodd gymdeithasau llenyddol mewn gwahanol rannau o Arfon i hyrwyddo cerdd dafod a chodi safonau llenyddol ei fro, gan gynnwys 'Cymdeithas yr Eryron' a fu'n cwrdd yn nhafarn y Bull's Head ym Mhontnewydd. Yn 1795 trefnodd eisteddfod ym Mhenmorfa.
Creuodd gylch o ddisgyblion oedd yn cynnwys Robert Morris 'Robin Ddu Eifionydd' (c. 1767-1816), Elis Wyn o Wyrfai (1827-1895), Griffith Williams (Gutyn Peris) (1769-1838), William Williams (Gwilym Peris) (1769-1847), Richard Jones (Gwyndaf Eryri) (1785-1848), William Edwards (Gwilym Padarn) a'i fab Griffith Edwards (Gutyn Padarn), Owen Williams (Owain Gwyrfai) o Waunfawr a William Ellis Jones (Cawrdaf). Fel "Cywion Dafydd Ddu" yr adnabyddid y beirdd hyn. Er nad oes llawer o lewyrch ar eu gwaith yn ôl safonau beirniadol heddiw bu gan y beirdd lleol hyn, llawer ohonynt yn chwarelwyr neu dyddynwyr, rôl bwysig i chwarae yn cynnal traddodiad yr eisteddfod a rheolau cerdd dafod yn y cymunedau chwarel a dyfodd yn Eryri yn y 19eg ganrif, yn arbennig yn ardaloedd Dyffryn Nantlle a Llanberis.
[golygu] Ffynonellau
- Charles Ashton, Hanes Llenyddiaeth Gymreig, o 1650 hyd 1850 (Lerpwl, 1893)
- Bedwyr Lewis Jones, 'The Literary Awakening in Arfon and Eifionydd', Atlas of Caernarvonshire (Caernarfon, 1977)
- D. Ambrose Jones, Llenyddiaeth a Llenorion Cymreig y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Lerpwl, 1922)