Dyfnallt Morgan
Oddi ar Wicipedia
Llenor, beirniad llenyddol, bardd a chyfieithydd oedd Dyfnallt Morgan (1917 - 1994), a aned yn Dowlais, Merthyr Tudful, Morgannwg.
[golygu] Ffrae Steddfod '53
Dyfnallt Morgan oedd awdur y bryddest eisteddfodol Y Llen, ond nid hi oedd y bryddest fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhyl 1953. Er i un o'r beirniaid, Saunders Lewis, fod eisiau coroni Dyfnallt Morgan, yr oedd y ddau feirniad arall, J.M. Edwards a T. H. Parry-Williams, yn unfryd yn ei herbyn. Yn ôl Saunders Lewis, mae'r gerdd yn disgrifo "terfyn gwareiddiad Cymraeg mewn cwm diwydiannol a'r llen haearn rhwng yr hen fywyd Cymreig a'r bywyd di-Gymraeg sy'n ei ddisodli." (Cyfansoddiadau 1953, t. 73). Ceir pwyslais ar yr elfen lafar a cheir enghraifft hyfryd o dafodiaith Morgannwg. Ceir testun Y Llen yn unig gyfrol barddoniaeth Dyfnallt Morgan, Y Llen a Myfyrdodau Eraill.
[golygu] Llyfryddiaeth ddethol
- Gwŷr Llên y Ddeunawfed Ganrif (1966)
- Y Llen a Myfyrdodau Eraill (1967)
- Gwŷr Llên y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (1968)
- Y Ferch o Ddolwar Fach (1977). Astudiaeth o waith a bywyd yr emynes Ann Griffiths
- Y Wlad sy' Well (1984). Hunangofiant.