Eglwysbach
Oddi ar Wicipedia
Pentref a phlwyf ym mwrdeistref sirol Conwy, gogledd Cymru, yw Eglwysbach. Mae'n gorwedd ar lôn wledig mewn dyffryn bychan yn y bryniau sy'n ymestyn i'r dwyrain fel cainc o Ddyffryn Conwy, sef Dyffryn Hiraethlyn. Mae tua 3 milltir i'r de o bentref Llansanffraid Glan Conwy (Glan Conwy), rhwng cymunedau bychain Graig a Pentre'r Felin. Mae'r plwyf yn gorwedd rhwng plwyfi Llansanffraid a Maenan.
Mae'r pentref yn adnabyddus am Sioe Eglwysbach, sioe amaethyddol a gynhelir yno ym mis Awst bob blwyddyn, ac sy'n cynnwys arddangosfeydd gwartheg, defaid a cheffylau, arddangosfeydd blodau, reidiau ffair a stondinau amrywiol.
Yn ôl Cyfrifiad 2001, mae 54% o drigolion Eglwysbach yn medru'r Gymraeg, ffigwr sy'n uwch na'r cyfartaledd ar gyfer sir Conwy ond sy'n sylweddol llai nag yn y gorffennol, yn bennaf oherwydd mewnfudo i'r ardal a diffyg tai fforddiadwy i bobl ifainc leol.
Tua milltir i'r gogledd o'r pentref ceir Gerddi Bodnant, sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Ganed John Evans, un o bregethwyr enwocaf Cymru yn y 19eg ganrif, yn Eglwysbach. Cyfeiria pobl ato fel "John Evans, Eglwysbach", ar hyd ei oes.
[golygu] Ffynonellau
- E. D. Rowlands, Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (Gwasg y Brython, Lerpwl, 1947)
Trefi a phentrefi Conwy |
Abergele | Bae Cinmel | Bae Colwyn | Bae Penrhyn | Betws-y-Coed | Betws yn Rhos | Bylchau | Capel Curig | Capel Garmon | Cefn-brith | Cerrigydrudion | Conwy | Craig-y-don | Cwm Penmachno | Cyffordd Llandudno | Deganwy | Dolgarrog | Dolwyddelan | Dwygyfylchi | Eglwysbach | Gellioedd | Glasfryn | Gwytherin | Gyffin | Henryd | Llanbedr-y-cennin | Llandrillo-yn-Rhos | Llandudno | Llanddoged | Llanddulas | Llanefydd | Llanfairfechan | Llanfair Talhaearn | Llanfihangel Glyn Myfyr | Llangernyw | Llangwm | Llanrwst | Llanrhos | Llanrhychwyn | Llan Sain Siôr | Llansanffraid Glan Conwy | Llansannan | Llysfaen | Maenan | Y Maerdy | Melin-y-coed | Mochdre | Pandy Tudur | Penmachno | Penmaenmawr | Pensarn | Pentrefoelas | Pentre-llyn-cymmer | Pentre Tafarn-y-fedw | Rowen | Rhydlydan | Rhyd y Foel | Trefriw | Tyn-y-groes | Tywyn | Ysbyty Ifan |