Cookie Policy Terms and Conditions El Kef - Wicipedia

El Kef

Oddi ar Wicipedia

Golygfa yng nghanol El Kef
Golygfa yng nghanol El Kef

Mae El Kef neu El-Kef (Arabeg: الكاف, Ffrangeg: Le Kef) yn ddinas hynafol yn Tunisia a phrifddinas y dalaith o'r un enw.

Lleolir El Kef ("Y Graig" yn Arabeg) yng ngogledd-orllewin y wlad, 175 km i'r gorllewin o'r brifddinas Tunis a 40 km i'r dwyrain o'r ffin ag Algeria. Ers dyddiau'r Henfyd, El Kef yw prif ganolfan yr Haut-Tell a gogledd-orllewin Tunisia, gan fwynhau safle hyd yn ddiweddar iawn o fod yn ganolfan wleidyddol, crefyddol a milwrol i'r rhanbarth. Ar uchder o 780m ar ben ei graig drawiadol, El Kef yw tref uchaf y wlad o bell ffordd.

Rhennir y ddinas yn ddau délégation (cyngor lleol), sef Dwyrain Kef a Gorllewin Kef. Mae arwynebedd y dref yn 2500 hectar gyda 45 hectar o fewn muriau hynafol y medina. Mae 45,191 o bobl yn byw yno (cyfrifiad 2004).

Dominyddir El Kef ("Kef" i'r bobl leol) gan y kasbah (caer) nerthol ar gopa ysgwydd greigiog uchel sy'n ymestyn allan o lethrau deheuol Jebel Dir (1084m). Mae'r mynydd hwnnw yn ei dro yn tra-arglwyddiaethu ar y gwastadedd uchel o'i gwmpas ac yn olygfa drawiadol.

Mae strydoedd cul y medina, a dyfodd yng nghysgod yn kasbah, yn cynnwys sawl adeilad hanesyddol, e.e. Y Mosg Mawr, Mosg Sidi Boumakhlouf a Tourbet Ali Turki (beddrod sylfaenydd llinach yr Husseiniaid a reolodd Tunisia am 250 mlynedd hyd ei hannibyniaeth yn 1957), a synagog El-Ghriba. Yn ogystal ceir eglwys hynafol Sant Pedr a Sant Paul, sy'n dyddio i'r 4edd ganrif.

[golygu] Hanes

Mae gan El Kef hanes hir iawn. Ceir olion archaeolegol sy'n dangos fod pobl yn byw yno yn y Neolithig. Sefydlwyd dinas Sicca yno gan y Carthageniaid tua 500 CC. Daeth yn enwog am y puteiniaid teml yng nghysegrfan Astarte. Daliwyd y dref gan y brenin Numidiaidd Jugurtha ar ôl cwymp Carthage i'r Rhufeiniaid; defnyddiodd y brenin fynydd Bwrdd Jugurtha, a welir i'r de-orllewin o Kef, fel amddiffynfa yn ei ryfel saith mlynedd â Rhufain (112-105 CC). Dan yr Ymerodraeth Rufeinig, trowyd teml Astarte yn deml i'r dduwies Gwener a galwyd y dref yn Sicca Veneria, am ei bod yn gysegredig i Wener. Mae rhai o olion yr hen ddinas Rufeinig i'w gweld yng nghanol El Kef, ger y ffynnon sanctaidd Ras el-Aïn. Codwyd baddondai gan y Rhufeiniaid yn Hammam Mellegue, 15km o'r Kef, sy'n dal i gael eu defnyddio heddiw.

Dilynwyd y Rhufeiniaid gan y Fandaliaid, am gyfnod byr, a'r Bysantiaid. Syrthiodd y dref i'r Arabiaid yn 688 a newidiwyd yr enw i Shaqbanaria (llygriad o 'Sicca Veneria'). Ond roedd y bobl leol, y Berberiaid, yn gwrthryfela'n gyson a bu El Kef yn annibynnol am lawer o'r amser tan i'r Otomaniaid gyrraedd yn yr 17eg ganrif. Ond blodeuodd Kef dan yr Otomaniaid ac ychwanegwyd sawl adeilad hardd i etifeddiaeth y dref.

El Kef oedd prifddinas dros dro Tunisia yn yr Ail Ryfel Byd. Yn y 1950au roedd hi'n ganolfan reoli'r FLN (Front de Libération Nationale) Algeriaidd yn ystod Rhyfel Annibyniaeth Algeria yn erbyn Ffrainc.

[golygu] Hinsawdd

Am ei bod mor uchel i fyny, mae El Kef yn mwynhau tywydd cymhedrol yn yr haf ond yn gallu bod yn oer yn y gaeaf gydag eira yn disgyn weithiau. Mae hi'n cael mwy o law na'r rhan fwyaf o lefydd yn Tunisia.

[golygu] Dolenni allanol

Static Wikipedia 2008 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -

Static Wikipedia 2007 (no images)

Static Wikipedia 2006 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu