Flores Poetarum Britannicorum
Oddi ar Wicipedia
Blodeugerdd gynnar o farddoniaeth Gymraeg yw'r Flores Poetarum Britannicorum. Fe'i cyhoeddwyd yn 1710 gan Dafydd Lewys o Lanllawddog. Cafodd ei argraffu yn yr Amwythig.
Teitl llawn y gyfrol yw:
- Flores Poetarum Brittanicorum
- Sef Blodeuog waith y Prydyddion Bryttannaidd
Llwyddodd y golygydd i gael gafael ar gasgliad o gerddi Cymraeg o waith sawl bardd a wnaeth y Dr. John Davies, Mallwyd yn y ganrif flaenorol. Er nad oes fawr o werth iddi fel blodeugerdd - darnau o waith gan Beirdd yr Uchelwyr ac eraill wedi'u trefnu dan sawl pen ydyw - roedd yn ymgais clodwiw ac arloesol am ei gyfnod.
Ar ddiwedd y casgliad o gerddi ychwanegwyd testun o draethawd barddol William Midleton (fl. 1550-1600), sef Bardhoniaeth neu brydydhiaeth (1593), sy'n dsigrifio rheolau Cerdd Dafod.
[golygu] Cyfeiriadau
- Thomas Parry, Hanes llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Caerdydd, 1944)
- Gwilym Lleyn, Llyfryddiaeth y Cymry (Llanidloes, 1869)