Foel Goch (Yr Wyddfa)
Oddi ar Wicipedia
Foel Goch Yr Wyddfa |
|
---|---|
Llun | Foel Goch dros Lyn Dwythwch |
Uchder | 605 m. |
Gwlad | Cymru |
Mae Foel Goch weithiau Moel Goch yn fynydd sy'n rhan o fynyddoedd Yr Wyddfa yn Eryri. Saif i'r gogledd-orllewin o gopa'r Wyddfa ei hun, rhwng Moel Cynghorion i'r dwyrain a Foel Gron, a Moel Eilio i'r gogledd-orllewin. Mae Bwlch Maesgwm yn ei wahanu oddi wrth Moel Cynghorion, a saif Llyn Dwythwch i'r gogledd-orllewin ohono.
Gellir ei ddringo ar hyd nifer o lwybrau, ond fel rheol cyrhaeddir i'r copa wrth fynd ar hyd y grib i gyd. Mae modd cyrraedd Bwlch Maesgwm o Lwybr Llyn Cwellyn neu o Lanberis ar draws Cwm Brwynog, ac yna dringo i'r copa.